----- Original Message -----
Sent: Monday, April 26, 2010 10:25
AM
Subject: Re: celebrate/celebration
Mae hwn wedi'i drafod o'r blaen o dan "Celebrate" ar 22 Mai
2006 -
Roedd sōn bryd hynny bod "dathlu'r arfordir" a "dathlu marwolaeth" yn
swnio'n chwithig.
Siān
On 26 Ebrill 2010, at 10:11, anna gruffydd wrote:
Mae GyrA yn reit benodol ynghylch ystyron celebrate
- ond os nagdio'n broblem i chdi mi roddaf fy ddydd ynot yn gyfan gwbl - at
y ffaith mod i'n dy drystio di eniwe mae'n gneud bywyd lot haws i
mi!!
Annes
2010/4/26 Geraint Lovgreen
<[log in to unmask]>
Dwi ddim yn gweld dim byd o'i le ar "dathlu"
- be di'r broblem?
Geraint
----- Original Message -----
Sent: Saturday, April 24, 2010
11:12 AM
Subject:
celebrate/celebration
(Nid yn yr ystyr o gadw gwyl). Yr erthyl eiria yma sy'n
codi'u pennau hyll ym mhob man. Bob un tro dwi'n eu gweld nhw dwi'n
gorfod crafu mhen am hydoedd. Dwi'm yn teimlo bod na air Cymraeg sy'n
llawn gyfleu be sy gynnyn nhw - y clodfori ar yr un pryd a llawenychu.
Weithia mae 'morio yn' yn gwneud y tro ond ddim bob amser. Felly, er
mwyn fy mhwyll dwi bellach wedi penderfynu - weithia - bod rhaid i mi
ddefnyddio dathlu/dathliad - ymddiheuradau ymlaen llaw os gwel rhywun
ohonoch rywbeth dwi wedi'i gyfieithu a gresynu mod i'n camddefnyddio'r
geiria.
Oce?
Annes