Dwi wedi gweld 'mantell' hefyd, sy'n well na 'gorchudd' dwi'n meddwl. Ond tueddu i'w osgoi os medra'i fydda i, a dim ond dweud 'yswiriant'. Geraint ----- Original Message ----- From: Angharad Evans To: [log in to unmask] Sent: Thursday, April 01, 2010 11:55 AM Subject: Insurance cover Annwyl Gyfeillion Tybed all rhywun gynnig term derbyniol i'w ddefnyddio ar gyfer yr uchod, Rwyf wedi gweld gorchudd yswiriant a sicrwydd yswiriant yn cael eu defnyddio yn y gorffennol, ond nid wyf byth yn siŵr pa un yw'r un cywir i'w ddefnyddio, neu a oes yna derm gwell? Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth. Angharad