***With apologies for cross posting***
12 May 2010 -
Improving Retention and Success: retaining students to and through higher education
12 Mai 2010 –
Gwella Cyfraddau Cadw a Llwyddiant: cadw myfyrwyr mewn addysg uwch
Improving
retention and success: retaining students to and through higher education.
A one-day conference jointly hosted by the Higher Education Academy and the
Higher Education Funding Council for Wales. The conference will be held on 12 May 2010 at The Metropole,
Llandrindod Wells.
The Welsh Assembly Higher Education strategy For Our
Future, the 21st Century Higher Education Strategy and Plan for
Wales includes a commitment to a renewed approach to widening access to
higher education including an expectation for HEFCW and stakeholders to
deliver:
‘A renewed widening access
strategy in 2010 to include stronger focus on helping those who access higher
education to successfully complete their learning objectives.’
This conference will explore effective ways in which
institutions can improve student retention and success throughout the
student lifecycle. It will include contributions
from across the UK and examples of effective practice from the Welsh
sector.
The conference will be of particular interest to staff
working in the following areas of higher education: senior management and
resource planning, admissions, equality and diversity, student services,
marketing and recruitment, retention, research and widening access, though it
will be of interest to all staff with responsibility for retaining successful
students to and through higher education.
The conference is limited to 80 delegates and we anticipate
that it will be over-subscribed.
For further details and booking, please see http://www.heacademy.ac.uk/events/detail/2010/jointevents/12_May_2010_Improving_Retention_and_success
Gwella cyfraddau cadw a llwyddiant: cadw myfyrwyr mewn
addysg uwch. Cynhadledd undydd a gynhelir ar y cyd gan yr Academi
Addysg Uwch a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Cynhelir y gynhadledd ar
12 Mai 2010 yn Y
Metropole, Llandrindod.
Mae strategaeth Addysg Uwch Cynulliad Cymru, Er Mwyn
Ein Dyfodol – Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr Unfed
Ganrif ar Hugain, yn cynnwys ymroddiad i ddull newydd o ehangu mynediad
at addysg uwch, gan gynnwys disgwyliad i CCAUC a rhanddeiliaid ddarparu:
‘Strategaeth
ehangu mynediad newydd yn 2010 i roi mwy o sylw i helpu pobl mewn addysg uwch i gwblhau eu hamcanion dysgu’n
llwyddiannus.’
Bydd y gynhadledd hon yn archwilio dulliau effeithiol y gall
sefydliadau eu defnyddio i wella cyfraddau cadw a llwyddiant myfyrwyr trwy
gydol cylch oes y myfyriwr. Bydd yn cynnwys cyfraniadau o bob rhan o’r DU
ac enghreifftiau o arfer effeithiol o’r sector yng Nghymru.
Bydd y gynhadledd o ddiddordeb arbennig i staff sy’n
gweithio yn y meysydd canlynol mewn addysg uwch: rheolaeth uwch a chynllunio
adnoddau, derbyniadau, cydraddoldeb ac amrywiaeth, gwasanaethau i fyfyrwyr,
marchnata a recriwtio, cadw, ymchwil ac ehangu mynediad, er y bydd o ddiddordeb
i bob aelod staff sy’n gyfrifol am gadw myfyrwyr llwyddiannus mewn addysg uwch.
Mae’r gynhadledd wedi’i chyfyngu i 80 o gynrychiolwyr, a
disgwyliwn y byddwn yn derbyn gormod o geisiadau.
Am fwy o fanylion ac i archebu lle, ewch i: http://www.heacademy.ac.uk/events/detail/2010/jointevents/12_May_2010_Improving_Retention_and_success