Print

Print


Annwyl Neil
Dioch yn fawr iawn am yr wybodaeth arbennig honno 'nad oeddwn yn gwybod nad oeddwn yn ei gwybod'
Geraint
 

Date: Sat, 27 Feb 2010 19:16:57 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Porth Termau Cenedlaethol Cymru
To: [log in to unmask]

Geraint,

 

Pe byddai rhywun i greu’r nodau tudalen isod yn Firefox gyda allweddeiriau megis imdb, acro, wiki, wici, dict a maps wedyn gallen nhw chwilio am dermau ar y safleoedd trwy deipio ‘imdb ryan davies’, wici anharad tomos’ neu ‘maps pontardawe’. Mae’r porwr yn rhoi’r  term yn lle ‘%s’ yn y cyfeiriad. Hyd y gwn i mae hyn ond yn gweithio gyda safleoedd lle mae’r term yn ymddangos yn y cyfeiriad ee ‘http://maps.google.co.uk/maps?q=pontardawe’.

 

http://www.imdb.com/find?s=all&q=%s

http://www.acronymfinder.com/~/search/af.aspx?Acronym=%s&Find=find&string=exact

http://en.wikipedia.org/wiki/Special:Search?search=%s&fulltext=Search

http://cy.wikipedia.org/wiki/Special:Search?search=%s&fulltext=Search

http://dictionary.reference.com/browse/%s

http://maps.google.co.uk/maps?q=%s

 

Oes modd gwneud rhywbeth tebyg gyda’r Porth Termau? Mae’n gallu bod yn hynod o gyfleus.

 

Neil Shadrach

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lewis
Sent: 27 February 2010 15:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: [WELSH-TERMAU-CYMRAEG] Porth Termau Cenedlaethol Cymru

 

Annwyl Dafydd
Rwy'n ofni nad wyf yn deall eich cyfeiriadaeth ond gan fod gennyf ddiddordeb, tybed a fyddai'n bosibl ichi egluro yr hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl gan eiriadur electronaidd?
Diolch
Geraint
 
> Date: Fri, 26 Feb 2010 19:26:56 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Porth Termau Cenedlaethol Cymru
> To: [log in to unmask]
>
> >
> > Dyma nodyn bach i'ch hysbysebu bod fersiwn beta o wefan Porth Termau
> > Cenedlaethol Cymru nawr ar gael i chi ei defnyddio ar
> > www.termau.org/porth
>
> Mae'n biti mawr fod y wefan yma wedi ei greu mewn ffurf 'or-glyfar'
> ac anhygyrch wrth ddefnyddio AJAX.
>
> Mae hyn yn golygu er enghraifft na alla'i greu ategyn chwilio
> yn Firefox er mwyn chwilio am derm yn syth o'r porwr.
>
> Fe ddylai adnodd o'r fath yma fod yn gwbl hygyrch ac yn 'agored'
> fel y gall unrhywun arall ei ddefnyddio (ac yn bwysicach efallai,
> gallu gwneud dolen uniongyrchol i derm).
>
> Os yw e wedi greu fel yma yn fwriadol, mae hynny'n warthus ond dwi'n
> amau ei fod yn deillio o anwybodaeth y datblygwr.


Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.435 / Virus Database: 271.1.1/2712 - Release Date: 02/26/10 19:39:00



Got a cool Hotmail story? Tell us now