Ie, byddai 'rhuthr' yn well am 'charge' - ac i mi mae rhuthro yn air mwy cyfarwydd na 'chyrch' beth bynnag.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Saunders, Tim
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, March 31, 2010 11:47 AM
Subject: Re: Charge of the Light Brigade

Mae'n debyg y byddai 'cyrch' yn cyfleu rhywbeth yn debycach i raid, fel yn y dyfyniad hwn o Nene: 'Enillodd y Military Cross am arwain grŵp o gomandos yn 'Operation Chariot', sef y cyrch chwedlonol ar St Nazaire. Yn ystod y noson honno yng ngheg y Loire enillodd 5 o filwyr y VC - y nifer mwyaf erioed mewn un cyrch.'
 
Cofion,
 
Tim
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of [log in to unmask]
Sent: 31 March 2010 11:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Charge of the Light Brigade

Dydw i ddim yn siwr beth yw oedran y disgyblion ond bydden i'n meddwl eu  bod nhw ym mlynyddoedd cyntaf yr ysgol uwchradd efallai.

Wnai feddwl am rhuthr a rhoddaf wybod pa derm  fyddaf yn ei ddewis maes o law.

Diolch

Melanie

----Original Message----
From: [log in to unmask]
Date: 31/03/2010 11:30
To: <[log in to unmask]>
Subj: Re: Charge of the Light Brigade

Diddorol iawn! Pa oedran yw'r disgyblion?
I mi, mae 'cyrch' yn llawer llai penodol na 'rhuthr', sy'n cyfleu'r syniad o ran olaf - a chryf a chyflym - y gweithgrediad, sef ymosodiad ar safle'r gelyn. Byddai 'cyrch' yn awgrymu gweithrediad cyfan, heb o reidrwydd y symudiad hwnnw ar y gelyn a'i safle.
 
Cofion,
 
Tim
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of [log in to unmask]
Sent: 31 March 2010 11:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Charge of the Light Brigade

Helo Tim,

Rwy'n  hoffi cyrch. Mae'r darn rwy'n gweithio arno i blant ysgol felly'n mae'n bosibl y bydd cyrch yn air fwy cyfarwydd na rhuthr.

Diolch yn fawr

Melanie

----Original Message----
From: [log in to unmask]
Date: 31/03/2010 10:31
To: <[log in to unmask]>
Subj: Charge of the Light Brigade

Fe dynnwyd fy sylw at y ffaith taw rhan o frwydr oedd y symudiad uchod. Un awgrym oedd 'cyrch'.
 
Posibilrwydd arall fyddai 'rhuthr'. Wele disgrifiad NGFL Cymru o'r symudiad a arweinir fel Pickett's Charge:  'Parhaodd Brwydr Gettysburg am dridiau a’r penllanw oedd rhuthr enfawr gan filwyr troed byddin y Gynghrair dan arweiniad yr Uwch-gadfridog George Pickett. Ataliwyd rhuthr y Gwrthryfelwyr gan danio effeithiol reifflau’r Undeb. Cafodd dros hanner milwyr Pickett eu lladd neu eu hanafu. Erbyn iddo gilio roedd Lee wedi colli dros draean o’i fyddin. Er gwaethaf y golled, methodd byddin yr Undeb ag ymlid byddin y Gwrthryfelwyr a’i dinistrio.'  (Fy mhwyslais i - TS)
 
Yn iach,
 
Tim
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
 
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad