Print

Print


Eleri James <[log in to unmask]>:


>Rwyf wedi cael cyfle i edrych ar wefan Tŷ'r Cwmnïau nawr. Nid y 'Glossary' y mae cysylltiad iddo gan Ann isod oedd ar fy meddwl i, ond yn hytrach y geirfa helaeth hwn:
>
>http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/about/policyDocuments/EngWelshGlossary.pdf
>
>Hen gysylltiad yw hwn wedi ei rhoi ar gadw ar fy nghyfrifiadur. 
>Ni lwyddais i ddod o hyd i'r geirfa wrth we-lywio ar wefan Tŷ'r Cwmnïau. 
>Dwi ddim yn siwr pam ei bod hi mor annodd dod o hyd i'r geirfa. 

Rwy wedi holi rhywun yno sy'n ymwneud a'u gwefan. Byddai wedi disgwyl ei gweld trwy ddewis Cymraeg / Amdanon ni / Llyfrgell / Dogfennau Polisi. Mae hynny'n arwain at http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/about/policyDocuments_W.shtml ond dyw'r ddogfen ddim ar y rhestr.

> Mae'n dal i fod rhaid atodi cyfieithiad 'swyddogol' Saesneg wrth gwt cyfrifon Cymraeg, rwyn credu. 
Rwy'n meddwl bod rhaid cael fersiwn Saesneg bob tro.

> Ond mae modd llanw rhai dogfennau eraill yn Gymraeg ar eu gwefan erbyn hyn. 
Mae'r rhyngwyneb ar gael yn Saesneg a Chymraeg ers canol 2008 ond nid yw hynny yn newid iaith y ddogfen swyddogol sy'n cael ei chreu. Y dewis o ffurflen sy'n penderfynnu hynny. Er enghraifft wrth benodi swyddog newydd byddai dewis ffurflen 'AP01' yn creu dogfen uniaith Saesneg tra byddai dewis 'AP01 c' yn creu dogfen ddwyieithog. Mae modd llenwi'r ddwy trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'r dogfennau dwyieithog ar gael i gwmniau wedi eu cofrestru yng Nghymru yn unig. Mae'r dewis i iaith y rhyngwyneb ar gael i bawb.