Print

Print


Rwy'n derbyn dadl Tim. Ond beth am gwmnïau elusennol?

Rwyf wedi cael cyfle i edrych ar wefan Tŷ'r Cwmnïau nawr. Nid y 'Glossary' y mae cysylltiad iddo gan Ann isod oedd ar fy meddwl i, ond yn hytrach y geirfa helaeth hwn:

http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/about/policyDocuments/EngWelshGlossary.pdf

Hen gysylltiad yw hwn wedi ei rhoi ar gadw ar fy nghyfrifiadur. Ni lwyddais i ddod o hyd i'r geirfa wrth we-lywio ar wefan Tŷ'r Cwmnïau. Dwi ddim yn siwr pam ei bod hi mor annodd dod o hyd i'r geirfa. Efallai ei fod yn rhywbeth i'w wneud â'r drefn derbyn dogfennau Cymraeg. Mae'n dal i fod rhaid atodi cyfieithiad 'swyddogol' Saesneg wrth gwt cyfrifon Cymraeg, rwyn credu. Ond mae modd llanw rhai dogfennau eraill yn Gymraeg ar eu gwefan erbyn hyn. Ai cyhoeddi'r geirfa fel rhan o gynllun i alluogi pobl i anfon cyfrifon Cymraeg heb gyfieithiad oedd y bwriad? Ond bod bwriad y cynllun heb gael ei wireddu a'r geirfa felly wedi cael statws llai 'swyddogol'? Efallai mai breuddwydio ydw i, cofiwch.  Byddai'n rhaid siarad â Tŷ'r Cwmnïau i gael gwybod beth yw'r drefn ar hyn o bryd. Mae'n rhaid bod y cyfieithwyr sydd wedi cyfieithu cyfrifon ar gyfer cael eu hanfon at Dŷ'r Cwmnïau'n yn gwybod mwy na finnau, ochodyn.

Y tro diwethaf yr holais nid oedd y Comisiwn Elusennau'n derbyn cyfrifon Cymraeg o gwbl.

Ar bwnc arall cysylltiedig, oes rhywun wedi cyfieithu'r term 'independent auditor'? Term weddol diweddar yw hwn y mae'n rhaid ei ddefnyddio yn lle yr hen derm 'auditor' pan mae archwilwyr ariannol yn adrodd.

Mae Tŷ'r Cwmnïau a'r Comisiwn Elusennau ill dau yn defnyddio 'archwiliad ariannol' ar gyfer 'audit'. Mae'r Comisiwn Elusennau yn defnyddio 'archwiliad annibynnol' ar gyfer 'independent examination'. Mae'n debyg mai 'archwilwyr ariannol annibynnol' byddai'n taro ar gyfer 'independent auditor' felly.

Rhaid cyfaddef nag ydw i wrth fy modd gydag 'archwiliad annibynnol' ar gyfer 'independent examination'. Yn Saesneg maent wedi defnyddio 'examination' o fwriad er mwyn peidio â rhoi'r argraff bod yr 'independent examiner' wedi archwilio'r cyfrifon yn fanwl. Mae 'examination' yn gorwedd rhwng 'review' ag 'audit' o ran manylder. Trueni o edrych nôl na fyddem wedi mabwysiadu 'arholi' ar gyfer 'examine'. Dwi'n meddwl bod yn rhaid rhoi 'independent examiner' mewn cromfachau ar ôl 'archiliwr annibynnol' er mwyn cael gwared ar yr amwysedd. Fel y mae Tim wedi sôn, gwell defnyddio'r term gan fod y Comisiwn Elusennau yn ei ddefnyddio, er ei fod yn codi chwys arna'i i'w ddefnyddio!

A dyna chi wedi cael hen ddigon o waith darllen gennyf, ar bwnc hynod ddiflas.
Hwyl,
Eleri

--- On Fri, 26/3/10, Saunders, Tim <[log in to unmask]> wrote:

From: Saunders, Tim <[log in to unmask]>
Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards
To: [log in to unmask]
Date: Friday, 26 March, 2010, 12:54


Sylwais innau ar nifer o anghysonderau hefyd. Mae angen dybryd rhoi trefn ar y materion hyn, yn sicr.
 
O beidio â dilyn y ffynonellau swyddogol mewn dogfen ffurfiol, mae rhywun ipso facto yn creu ansicrwydd nad oedd yno'r blaen. Gall hyn yn ei dro arwain at bob math o ganlyniadau annisgwyl, a'r rheiny'n bosibl yn annymunol iawn hefyd. Lle bo dwy ffynhonell gydradd yn anghytuno, mae'n debyg y byddai'n well rhoi blaenoriaeth i'r un fwy perthnasol - e.e., geirfa'r Comisiwn Elusennau mwen dogfen sy'n ymwneud ag elusennau.
 
Cofion gorau,
 
 
 
 
Tim
 
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eleri James
Sent: 26 March 2010 12:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards

Mae gen i ryw frith gof bod geirfa Ty^'r Cwmniau wedi cael 'downgrade' o ran statws ers iddo gael ei roi ar y we yn gyntaf. Dwi ddim wedi gorfod anfon cyfrifon Cymraeg at Dy'r Cwmniau fy hunan i fod wedi mynd i'r afael gyda'r sefyllfa ar hyn o bryd.  Ydy hi'n gywir nad oes rhaid defnyddio'r termau yn y rhestr mewn cyfrifon?  Efallai bod rhywrai eraill wedi anfon cyfrifon Cymraeg atynt yn gallu trafod hwn yn well na fi. 

Wedi dweud hynna dwi yn defnyddio rhestr Ty^r Cwmniau fy hunan, fel man cychwyn ar gyfieithu. Dwi hefyd yn edrych ar y deunydd Cymraeg sydd ar wefan y Comisiwn Elusennau.  Weithiau dyw'r termau Cymraeg ar y ddwy wefan ddim yn cytuno!

Eleri James



--- On Fri, 26/3/10, Saunders, Tim <[log in to unmask]> wrote:

From: Saunders, Tim <[log in to unmask]>
Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards
To: [log in to unmask]
Date: Friday, 26 March, 2010, 9:19


Buaswn i fy hun yn betrus iawn i fentro 'cywiro' dogfen o eiddo Ty'r Cwmnïau, oni bai fod dogfen o statws uwch - deddfwriaeth, er enghraifft - yn cyfiawnhau hynny.
 
 
 
 
Tim
 
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 25 March 2010 23:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards

 

 

Llawer o ddiolch, Eleri – diolch am y syniad ynghylch Ty’r Cwmniau.  ‘Rwyf wedi edrych ar ei wefan, a’r unig beth a welaf yw dwy enghraiff o “Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol”. Daw’r rhain mewn hysbyseb am swydd, a fuaswn i ddim yn meddwl bod rhaid imi dalu gormod o sylw iddynt yn wyneb gwir ystyr yr ymadrodd.  Af am “'Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol”, er ‘dw i’n amau y bydd llawer o enghreifftiau o fersiynau eraill yn codi yn y dyfodol.

 

‘Roeddwn i’n falch o glywed am yr eirfa (Saesneg: https://ewf.companieshouse.gov.uk/help/en/stdwf/glossaryHelp.html; Cymraeg: https://ewf.companieshouse.gov.uk/help/cy/stdwf/glossaryHelp.html ), ond nid oedd IFRS yno.

 

Ann

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eleri James
Sent: 25 March 2010 13:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards

 

Mae 'Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol' yn cyfleu'r ystyr cywir; y safonau sy'n rhyngwladol. 

Nifer o ddogfennau yw'r 'Financial Reporting Standards' sy'n cofnodi'r rheolau ar gyfer paratoi adroddiadau ariannol, gan gynnwys adroddiadau blynyddol cwmniau. Mae Prydain a gwledydd eraill wedi cyhoeddi eu 'Financial Reporting Standards' eu hunain - yr Accounting Standards Board (http://www.frc.org.uk/asb/technical/standards/accounting.cfm) sy'n eu cyhoeddi ym Mhrydain. Mae'r safonau'n wahanol ym mhob gwlad. Yr International Accounting Standards Board (http://www.iasb.org/Home.htm) sy'n cyhoeddi'r fersiynau rhyngwladol.

Ydych chi wedi cael golwg ar wefan Ty^'r Cwmniau i weld beth sydd ganddyn nhw yn eu geirfa nhw?

Eleri James



--- On Wed, 24/3/10, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:


From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards
To: [log in to unmask]
Date: Wednesday, 24 March, 2010, 23:02

Mae hynny'n swnio'n gall iawn - fydda i'n meddwl weithia, yn Saesneg, ydyn nhw'n gwbod at ba air mae unrhyw ansoddair neu'i gilydd yn cyfeirio, gan na dydyn nhw ddim yn gorfod gwahaniaethu - peth call iawn oedd bwrw golwg ar y Ffrangeg a'r Eidaleg. Diolch - os digwydd y bydd ei angen arnaf - na fydd gobeithio!

Annes

2010/3/24 David Bullock <[log in to unmask]>

Wedi cael golwg yn sydyn ar IATE – geiriadur yr Undeb Ewropeaidd – rwy’n gweld mai:

 

“norme internationale d'information financière”

 

a

 

“principi internazionali d'informativa finanziaria”

 

yw’r ffurfiau Ffrangeg ac Eidaleg.

 

Ydw i’n iawn i feddwl bod y ddwy ffurf hyn yn golygu mai “safonau rhyngwladol” yw’r man cychwyn i’r term gorau yn Gymraeg?

 

Hynny yw, safonau rhyngwladol sy’n ymwneud ag adroddiadau ariannol sydd yma, ac nid safonau ynglŷn ag adroddiadau ariannol rhyngwladol, am wn i.

 

Yn ail, mae adroddiad (ac adroddiadau) ariannol yn swnio’n fwy naturiol i fi nag adroddiad ac adroddiadau) cyllid.

 

Byddai hynny i gyd yn arwain at y ffurf “Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol”.

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 24 Mawrth 2010 19:29

Subject: IFRS - International Financial Reporting Standards

 

O ran diddordeb, dyma’r canlyniadau o Google:

Safonau Addroddiad Ariannol Rhyngwladol - 1

Safonau Adrodd Cyllid Rhyngwladol – 4

Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol – 94 (un ohonynt ar www.wao.gov.uk)

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol – 797 (116 ohonynt ar www.wao.gov.uk)

 

A oes ‘na unrhyw gyfuniad tebygol ‘rwyf wedi anghofio ei drio? A oes ‘na unrhyw reswm dros beidio a mynd gyda’r lli?

 

Diolch yn fawr iawn,

 

Ann

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.791 / Virus Database: 271.1.1/2765 - Release Date: 03/24/10 07:33:00