Wedi cael golwg yn sydyn ar IATE –
geiriadur yr Undeb Ewropeaidd – rwy’n gweld mai:
“norme internationale
d'information financière”
a
“principi internazionali
d'informativa finanziaria”
yw’r ffurfiau Ffrangeg ac Eidaleg.
Ydw i’n iawn i feddwl bod y ddwy
ffurf hyn yn golygu mai “safonau rhyngwladol” yw’r man cychwyn i’r term
gorau yn Gymraeg?
Hynny yw, safonau rhyngwladol sy’n
ymwneud ag adroddiadau ariannol sydd yma, ac nid safonau ynglŷn ag
adroddiadau ariannol rhyngwladol, am wn i.
Yn ail, mae adroddiad (ac
adroddiadau) ariannol yn swnio’n fwy naturiol i fi nag adroddiad ac
adroddiadau) cyllid.
Byddai hynny i gyd yn arwain at y
ffurf “Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol”.
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
Ar ran/On Behalf Of
Ann
Corkett
Sent: 24 Mawrth 2010
19:29
Subject: IFRS - International
Financial Reporting Standards
O ran
diddordeb, dyma’r canlyniadau o Google:
Safonau
Addroddiad Ariannol Rhyngwladol - 1
Safonau Adrodd
Cyllid Rhyngwladol – 4
Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol – 94 (un
ohonynt ar www.wao.gov.uk)
Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol – 797 (116
ohonynt ar www.wao.gov.uk)
A oes ‘na unrhyw
gyfuniad tebygol ‘rwyf wedi anghofio ei drio? A oes ‘na unrhyw reswm dros
beidio a mynd gyda’r lli?
Diolch yn fawr
iawn,
Ann
No virus found in this incoming
message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.791 / Virus Database:
271.1.1/2765 - Release Date: 03/24/10 07:33:00