Print

Print


Mae gen i ryw frith gof bod geirfa Ty^'r Cwmniau wedi cael 'downgrade' o ran statws ers iddo gael ei roi ar y we yn gyntaf. Dwi ddim wedi gorfod anfon cyfrifon Cymraeg at Dy'r Cwmniau fy hunan i fod wedi mynd i'r afael gyda'r sefyllfa ar hyn o bryd.  Ydy hi'n gywir nad oes rhaid defnyddio'r termau yn y rhestr mewn cyfrifon?  Efallai bod rhywrai eraill wedi anfon cyfrifon Cymraeg atynt yn gallu trafod hwn yn well na fi.  

Wedi dweud hynna dwi yn defnyddio rhestr Ty^r Cwmniau fy hunan, fel man cychwyn ar gyfieithu. Dwi hefyd yn edrych ar y deunydd Cymraeg sydd ar wefan y Comisiwn Elusennau.  Weithiau dyw'r termau Cymraeg ar y ddwy wefan ddim yn cytuno!

Eleri James 



--- On Fri, 26/3/10, Saunders, Tim <[log in to unmask]> wrote:

From: Saunders, Tim <[log in to unmask]>
Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards
To: [log in to unmask]
Date: Friday, 26 March, 2010, 9:19



 

 
 _filtered #yiv2095397988 {
font-family:Tahoma;
}
 _filtered #yiv2095397988 {margin:1.0in 1.25in 1.0in 1.25in;}
#yiv2095397988 P.MsoNormal {
FONT-SIZE:12pt;MARGIN:0in 0in 0pt;FONT-FAMILY:"Times New Roman";}
#yiv2095397988 LI.MsoNormal {
FONT-SIZE:12pt;MARGIN:0in 0in 0pt;FONT-FAMILY:"Times New Roman";}
#yiv2095397988 DIV.MsoNormal {
FONT-SIZE:12pt;MARGIN:0in 0in 0pt;FONT-FAMILY:"Times New Roman";}
#yiv2095397988 A:link {
COLOR:blue;TEXT-DECORATION:underline;}
#yiv2095397988 SPAN.MsoHyperlink {
COLOR:blue;TEXT-DECORATION:underline;}
#yiv2095397988 A:visited {
COLOR:blue;TEXT-DECORATION:underline;}
#yiv2095397988 SPAN.MsoHyperlinkFollowed {
COLOR:blue;TEXT-DECORATION:underline;}
#yiv2095397988 P {
FONT-SIZE:12pt;MARGIN-LEFT:0in;MARGIN-RIGHT:0in;FONT-FAMILY:"Times New Roman";}
#yiv2095397988 SPAN.EmailStyle19 {
COLOR:navy;FONT-FAMILY:Arial;}
#yiv2095397988 DIV.Section1 {
}

Buaswn i fy hun yn betrus iawn i fentro 'cywiro' dogfen o 
eiddo Ty'r Cwmnïau, oni bai fod dogfen o statws uwch - deddfwriaeth, er 
enghraifft - yn cyfiawnhau hynny.
 


 


 
 
Tim
 
 
Tim 
Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 
Rhondda Cynon Taf County Borough 
Council



From: Discussion of Welsh language technical 
terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On 
Behalf Of Ann Corkett
Sent: 25 March 2010 23:16
To: 
[log in to unmask]
Subject: Re: IFRS - International 
Financial Reporting Standards




   
   

Llawer o ddiolch, Eleri 
– diolch am y syniad ynghylch Ty’r Cwmniau.  ‘Rwyf wedi edrych ar ei wefan, 
a’r unig beth a welaf yw dwy enghraiff o “Safonau Adroddiadau Ariannol 
Rhyngwladol”. Daw’r rhain mewn hysbyseb am swydd, a fuaswn i ddim yn meddwl bod 
rhaid imi dalu gormod o sylw iddynt yn wyneb gwir ystyr yr ymadrodd.  Af am 
“'Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol”, er ‘dw i’n amau y bydd llawer o 
enghreifftiau o fersiynau eraill yn codi yn y 
dyfodol. 
   
‘Roeddwn i’n falch o 
glywed am yr eirfa (Saesneg: https://ewf.companieshouse.gov.uk/help/en/stdwf/glossaryHelp.html; 
Cymraeg: https://ewf.companieshouse.gov.uk/help/cy/stdwf/glossaryHelp.html 
), ond nid oedd IFRS yno. 
   
Ann 
   




From:
 Discussion of Welsh language technical terminology and 
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] 
On Behalf Of Eleri 
James
Sent: 25 March 2010 
13:51
To: 
[log in to unmask]
Subject: Re: IFRS - International Financial 
Reporting Standards 
   

  
  
    
      
      Mae 'Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol' yn 
      cyfleu'r ystyr cywir; y safonau sy'n rhyngwladol.  

Nifer o 
      ddogfennau yw'r 'Financial Reporting Standards' sy'n cofnodi'r rheolau ar 
      gyfer paratoi adroddiadau ariannol, gan gynnwys adroddiadau blynyddol 
      cwmniau. Mae Prydain a gwledydd eraill wedi cyhoeddi eu 'Financial 
      Reporting Standards' eu hunain - yr Accounting Standards Board 
      (http://www.frc.org.uk/asb/technical/standards/accounting.cfm) sy'n eu 
      cyhoeddi ym Mhrydain. Mae'r safonau'n wahanol ym mhob gwlad. Yr 
      International Accounting Standards Board (http://www.iasb.org/Home.htm) 
      sy'n cyhoeddi'r fersiynau rhyngwladol.

Ydych chi wedi cael golwg ar 
      wefan Ty^'r Cwmniau i weld beth sydd ganddyn nhw yn eu geirfa 
      nhw?

Eleri James



--- On Wed, 24/3/10, anna gruffydd <[log in to unmask]> 
      wrote: 
      
From: anna 
      gruffydd <[log in to unmask]>
Subject: Re: IFRS - 
      International Financial Reporting Standards
To: 
      [log in to unmask]
Date: Wednesday, 24 March, 2010, 
      23:02 
      
      Mae hynny'n 
      swnio'n gall iawn - fydda i'n meddwl weithia, yn Saesneg, ydyn nhw'n gwbod 
      at ba air mae unrhyw ansoddair neu'i gilydd yn cyfeirio, gan na dydyn nhw 
      ddim yn gorfod gwahaniaethu - peth call iawn oedd bwrw golwg ar y Ffrangeg 
      a'r Eidaleg. Diolch - os digwydd y bydd ei angen arnaf - na fydd 
      gobeithio!

Annes 
      
      2010/3/24 David Bullock 
      <[log in to unmask]> 
      
      
      Wedi cael golwg yn sydyn ar IATE – 
      geiriadur yr Undeb Ewropeaidd – rwy’n gweld mai: 
        
      “norme internationale 
      d'information financière” 
        
      a 
        
      “principi internazionali 
      d'informativa finanziaria” 
        
      yw’r ffurfiau Ffrangeg ac Eidaleg. 
       
        
      Ydw i’n iawn i feddwl bod y ddwy 
      ffurf hyn yn golygu mai “safonau rhyngwladol” yw’r man cychwyn i’r term 
      gorau yn Gymraeg? 
        
      Hynny yw, safonau rhyngwladol sy’n 
      ymwneud ag adroddiadau ariannol sydd yma, ac nid safonau ynglŷn ag 
      adroddiadau ariannol rhyngwladol, am wn i. 
        
      Yn ail, mae adroddiad (ac 
      adroddiadau) ariannol yn swnio’n fwy naturiol i fi nag adroddiad ac 
      adroddiadau) cyllid. 
        
      Byddai hynny i gyd yn arwain at y 
      ffurf “Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol”. 
        
        
      
      
      From:
 Discussion of Welsh language technical terminology and 
      vocabulary [mailto:[log in to unmask]] 
      Ar ran/On Behalf Of 
       Ann 
      Corkett
Sent: 24 Mawrth 2010 
      19:29 
      
      
To: 
      [log in to unmask] 
      Subject: IFRS - International 
      Financial Reporting Standards 
       
      
      
        
      O ran 
      diddordeb, dyma’r canlyniadau o Google: 
      Safonau 
      Addroddiad Ariannol Rhyngwladol - 1 
      Safonau Adrodd 
      Cyllid Rhyngwladol – 4 
      Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol – 94 (un 
      ohonynt ar www.wao.gov.uk) 
      Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol – 797 (116 
      ohonynt ar www.wao.gov.uk) 
        
      A oes ‘na unrhyw 
      gyfuniad tebygol ‘rwyf wedi anghofio ei drio? A oes ‘na unrhyw reswm dros 
      beidio a mynd gyda’r lli? 
        
      Diolch yn fawr 
      iawn, 
        
      Ann 
      No virus found in this incoming 
      message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.791 / Virus Database: 
      271.1.1/2765 - Release Date: 03/24/10 07:33:00