Print

Print


 

 

Llawer o ddiolch, Eleri – diolch am y syniad ynghylch Ty’r Cwmniau.  ‘Rwyf wedi edrych ar ei wefan, a’r unig beth a welaf yw dwy enghraiff o “Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol”. Daw’r rhain mewn hysbyseb am swydd, a fuaswn i ddim yn meddwl bod rhaid imi dalu gormod o sylw iddynt yn wyneb gwir ystyr yr ymadrodd.  Af am “'Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol”, er ‘dw i’n amau y bydd llawer o enghreifftiau o fersiynau eraill yn codi yn y dyfodol.

 

‘Roeddwn i’n falch o glywed am yr eirfa (Saesneg: https://ewf.companieshouse.gov.uk/help/en/stdwf/glossaryHelp.html; Cymraeg: https://ewf.companieshouse.gov.uk/help/cy/stdwf/glossaryHelp.html ), ond nid oedd IFRS yno.

 

Ann

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eleri James
Sent: 25 March 2010 13:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards

 

Mae 'Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol' yn cyfleu'r ystyr cywir; y safonau sy'n rhyngwladol. 

Nifer o ddogfennau yw'r 'Financial Reporting Standards' sy'n cofnodi'r rheolau ar gyfer paratoi adroddiadau ariannol, gan gynnwys adroddiadau blynyddol cwmniau. Mae Prydain a gwledydd eraill wedi cyhoeddi eu 'Financial Reporting Standards' eu hunain - yr Accounting Standards Board (http://www.frc.org.uk/asb/technical/standards/accounting.cfm) sy'n eu cyhoeddi ym Mhrydain. Mae'r safonau'n wahanol ym mhob gwlad. Yr International Accounting Standards Board (http://www.iasb.org/Home.htm) sy'n cyhoeddi'r fersiynau rhyngwladol.

Ydych chi wedi cael golwg ar wefan Ty^'r Cwmniau i weld beth sydd ganddyn nhw yn eu geirfa nhw?

Eleri James



--- On Wed, 24/3/10, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:


From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards
To: [log in to unmask]
Date: Wednesday, 24 March, 2010, 23:02

Mae hynny'n swnio'n gall iawn - fydda i'n meddwl weithia, yn Saesneg, ydyn nhw'n gwbod at ba air mae unrhyw ansoddair neu'i gilydd yn cyfeirio, gan na dydyn nhw ddim yn gorfod gwahaniaethu - peth call iawn oedd bwrw golwg ar y Ffrangeg a'r Eidaleg. Diolch - os digwydd y bydd ei angen arnaf - na fydd gobeithio!

Annes

2010/3/24 David Bullock <[log in to unmask]>

Wedi cael golwg yn sydyn ar IATE – geiriadur yr Undeb Ewropeaidd – rwy’n gweld mai:

 

“norme internationale d'information financière”

 

a

 

“principi internazionali d'informativa finanziaria”

 

yw’r ffurfiau Ffrangeg ac Eidaleg.

 

Ydw i’n iawn i feddwl bod y ddwy ffurf hyn yn golygu mai “safonau rhyngwladol” yw’r man cychwyn i’r term gorau yn Gymraeg?

 

Hynny yw, safonau rhyngwladol sy’n ymwneud ag adroddiadau ariannol sydd yma, ac nid safonau ynglŷn ag adroddiadau ariannol rhyngwladol, am wn i.

 

Yn ail, mae adroddiad (ac adroddiadau) ariannol yn swnio’n fwy naturiol i fi nag adroddiad ac adroddiadau) cyllid.

 

Byddai hynny i gyd yn arwain at y ffurf “Safonau Rhyngwladol Adroddiadau Ariannol”.

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 24 Mawrth 2010 19:29

Subject: IFRS - International Financial Reporting Standards

 

O ran diddordeb, dyma’r canlyniadau o Google:

Safonau Addroddiad Ariannol Rhyngwladol - 1

Safonau Adrodd Cyllid Rhyngwladol – 4

Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol – 94 (un ohonynt ar www.wao.gov.uk)

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol – 797 (116 ohonynt ar www.wao.gov.uk)

 

A oes ‘na unrhyw gyfuniad tebygol ‘rwyf wedi anghofio ei drio? A oes ‘na unrhyw reswm dros beidio a mynd gyda’r lli?

 

Diolch yn fawr iawn,

 

Ann

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.791 / Virus Database: 271.1.1/2765 - Release Date: 03/24/10 07:33:00