Print

Print



Diolch yn fawr am y wybodaeth ddefnyddiol Osian. Dydi pobl sydd ddim yn dallt llawer am gyfrifiaduron (fel fi!) ddim yn ymwybodol o'r pethau yma os nad ydi rhywun yn eu cyflwyno mewn ffordd hollol syml, ac mae angen atgoffa o bryd i'w gilydd hefyd, gan fod datblygiadau'n digwydd o hyd.
 
Roedd Firefox gen i yn Gymraeg (a Facebook!) ond rwan mae Microsoft Word hefyd. Hwre.
 
Ond am ryw reswm, er imi lawrlwytho pecyn Cymreigio Windows Vista, Saesneg ydi iaith Windows a Windows Mail o hyd. Hmm. Dwi wedi trio diffodd y cyfrifiadur a'i ailgychwyn, ond dim newid.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Rhys Osian (AcadReg)
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Saturday, February 27, 2010 6:30 PM
Subject: ATB/RE: ATB/RE: Porth Termau Cenedlaethol Cymru

Mae’n ddrwg gen i bod hyn oddi ar y pwnc braidd, ond dim ond atgoffa pawb, o weld y drafodaeth, bod Windows ac Office ar gael yn Gymraeg...

 

Os ca i geisio gwneud hyn yn berthnasol i’r drafodaeth ynghylch termau, byddwn i’n meddwl y byddai’n arbennig o bwysig i gyfieithwyr eu defnyddio yn Gymraeg, nid yn unig am y rhesymau amlwg (gan gynnwys “os na wnawn ni, pwy wnaiff?”), ond hefyd er mwyn ymgyfarwyddo â’r termau sy’n cael eu harfer ynddyn nhw (e.e. desktop = bwrdd gwaith) fel bod ein cyfieithiadau yn defnyddio termau sy’n gyson â’r hyn y bydd pobl sydd yn defnyddio meddalwedd Gymraeg wedi arfer ag e.

 

Mae gwybodaeth am sut i gael Windows ac Office yn Gymraeg i’w gweld ar www.meddal.org.uk, gwefan wych sy’n rhestru llawer o feddalwedd arall, gan gynnwys meddalwedd agored, sydd ar gael yn Gymraeg hefyd...

 

Mae Technoleg Gwybodaeth yn faes lle nad oes angen protest er mwyn cael stwff yn Gymraeg – jyst defnyddio beth sydd ar gael i ni tra bod cwmni mawr fel Microsoft yn fodlon talu am gyfieithiad safonol a sylweddol. Os ydych chi’n gweithio i sefydliad, gallwch ofyn i staff technegol osod Windows Cymraeg – dw i wedi dod yn erbyn gwrthwynebiad i hyn o’r blaen (“if you change your computer to Welsh, the central computer won’t be able to communicate with it”), ond rybish yw hynny, ac os mynnwch chi maen nhw’n ildio yn y pen draw yn fy mhrofiad i.

 

Esgusodwch y bregeth ond ofni gweld dydd ydw i pan fydd Microsoft yn tynnu Cymraeg o’i restr o ddewis ieithoedd oherwydd diffyg defnydd.

 

Osian

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 26 Chwefror 2010 17:33
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Porth Termau Cenedlaethol Cymru

 

Diolch! Mae'n gweithio!! Erioed wedi gwneud hynny o'r blaen.

 

Catrin

 


From: David Bullock <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 26 February, 2010 17:18:55
Subject: ATB/RE: Porth Termau Cenedlaethol Cymru

Word 2007 sy gen i, ac fel hyn yr es i ati:

 

1.    Amlygu’r URL, sef http://www.termau.org/porth/ a’i gopïo

2.    Symud i’r ‘desktop’

3.    Rhoi clic dde ar y llygoden, sy’n codi dewislen fach

4.    Ar y ddewislen honno, dewis ‘New’, ac wedyn dewis ‘shortcut’.

5.    Yn y bocs o dan “Type the location of the item” gludo’r URL i mewn

 

Et voila!

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 26 Chwefror 2010 16:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Porth Termau Cenedlaethol Cymru

 

Bydd hwn yn ddefnyddiol dros ben!

Sut yn union mae gwneud yr hyn mae Tim (a Siân o bosib) wedi'i wneud plis?

 

Catrin

 


From: Siân Roberts <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 26 February, 2010 16:34:44
Subject: Re: Porth Termau Cenedlaethol Cymru

Diolch am hwn. Fe fydd yn ardderchog, dwi'n siwr.

Dwi'n meddwl mod i wedi gwneud yr un peth â Tim (ond dw i ddim yn siwr!)

Siân

On 26 Chwef 2010, at 15:49, Andrews,Tegau wrote:

> Annwyl bawb,
>
> Dyma nodyn bach i'ch hysbysebu bod fersiwn beta o wefan Porth Termau Cenedlaethol Cymru nawr ar gael i chi ei defnyddio ar www.termau.org/porth
>
> Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr wedi bod wrthi'n ddyfal yn creu'r wefan hon sy'n cyfuno geiriaduron termau safonol (ynghyd â'u diffiniadau), fel bod modd chwilio pob un ohonynt ag un clic. Ar hyn o bryd, mae'n cynnwys bron i 20 geiriadur termau, yn eu plith Geiriadur Termau Rheoli Coetiroedd, Geiriadur Termau Seicoleg a Geiriadur y Gyfraith, nad oeddent ar gael ar y we o'r blaen.
>
> Mae'r Porth yn cynnwys nodweddion chwilio uwch, er enghraifft y gallu i ddeall ffurfiau treigliedig, lluosogion a rhediadau berfol y Gymraeg. Mae hefyd yn blaenoriaethu canlyniadau yn ôl eu perthnasedd.
>
> Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi! :)
>
> Tegau
>
> --Tegau Andrews
>
> Terminolegydd           
> Uned Technolegau Iaith       
> Canolfan Bedwyr           
> Safle'r Normal   
> Prifysgol Bangor       
> Bangor
> Gwynedd LL57 2PX       
>
> **********
>
> Terminologist
> Language Technologies Unit
> Canolfan Bedwyr
> Normal Site
> Bangor University
> Bangor
> Gwynedd LL57 2PX
>
> Ffôn/ Telephone: 01248 388618
> E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
>
> --Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of the Bangor University.
> Bangor University does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the Bangor University Finance
> Office.  www.bangor.ac.uk

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.733 / Virus Database: 271.1.1/2710 - Release Date: 02/25/10 19:57:00