Print

Print


Peidiwch da chi ag argymell Geiriadur Gomer i'r Ifanc - mae o allan o brint !!  Dwi wedi bod yn diawlio hynny yn y siop ( Bys a Bawd, Llanrwst) oherwydd roedd o yn eiriadur handi - yn un fyddwn i yn ei werthu i bob oedran pan oedd cwsmer eisiau un oedd yn mynd y ddwy ffordd fel petai - a Geiriadur yr Academi ddim ond yn mynd un ffordd ( ac yn rhy ddrud gan ambell un hefyd).
Ar y llaw arall mae "Pa arddodiad?" yn dal i fod ar gael.
Dwynwen
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">GLENYS ROBERTS
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, March 10, 2010 12:43 PM
Subject: Re: For

Maddeuwch i mi - dw i ddim wedi dilyn y drafodaeth i gyd, ond roedd rhai'n holi am lyfr ar arddodiaid. Rhag ofn bod yr ateb yn dal i hofran, mae'n debyg mai 'Pa Arddodiad?', llyfr y cymwynaswr mawr Geraint Lewis sy dan sylw - un o nifer o lyfrau defnyddiol iawn ganddo gan gynnwys Geiriadur Gomer i'r Ifanc. Gw. http://www.gomer.co.uk/gomer/cy/gomer.SearchBook/Author/145
Ymddiheuriadau os oes rhywun eisoes wedi rhoi'r ateb.
Glenys 

--- On Wed, 10/3/10, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:

From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Subject: Re: For
To: [log in to unmask]
Date: Wednesday, 10 March, 2010, 12:14

Ar ôl yr holl ladd ar y ffurf, dyma un enghraifft lle mai "ar gyfer" sy'n iawn, dwi'n meddwl!

Dydi "at" ddim yn taro deuddeg yn y fan yma beth bynnag.

Geraint

----- Original Message ----- From: "Claire Richards" <[log in to unmask]" ymailto="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]" ymailto="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 10, 2010 11:25 AM
Subject: Re: For


Mae'r gair bach hwn wedi codi yma'r bore 'ma.

"Keep a copy for school records."

Cadwch gopi at gofnodion yr ysgol?  I gofnodion yr ysgol?

Claire