Neges ar ran Berwyn Prys Jones:
Cyngor T J Morgan mewn llythyr ata i ym mis Hydref 1986
oedd;
"... y peth a ystyriaf i sy'n difetha'n Cymraeg
cyhoeddus ni yw amlder yr ymadrodd 'ar gyfer'. Rhifwch yr enghreifftiau a
glywch yn ystod wythnos o ddarlledu newyddion. Fe glywch gannoedd, i ble bynnag
y bydd 'for' yn Saesneg, rhaid cael ar gyfer yn Gymraeg. Ac y mae rhyw
syniad rhyfedd yn bod fod sŵn crand iawn yn yr ymadrodd."
Wrth gymryd gweithdai, bydda i'n pregethu bod angen ystyried
dau gyfieithiad posibl arall cyn defnyddio 'ar gyfer', sef dim byd o gwbl
('Ysgrifennydd Gwladol Cymru : Secretary of State for Wales') neu 'i'.
Gan amlaf, bydd 'i' yn rhagori ar 'ar gyfer'.
Berwyn
Nia Wyn Edwards
Rheolwr
Systemau/Systems Manager
Cymdeithas Cyfieithwyr
Cymru (The Association of Welsh Translators and Interpreters)
Bryn Menai, Ffordd
Caergybi,
01248 371839
www.cyfieithwyrcymru.org.uk