Print

Print


Saesneg tafodieithol yn wreiddiol.  Gogledd Canolbarth Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr, hyd y gwn i.  Yn anffodus, dwi wedi colli cyfeiriad gwe fersiwn ar-lein geiriadur Joseph Wright.

 

O wefan y BBC, pobl yn sôn am dafodiaith Swydd Stafford:

"Nesh - as in as nesh as a carrot - meaning sensitive to the cold."

 

Roedd fy mam innau, dynes ddi-Gymraeg o Lerpwl, yn defnyddio'r gair, hefyd.  Wrthyf i, yn aml iawn, pan fyddwn i'n cwyno 'mod i'n oer.

 

O'r un ardal y daw 'mither/meither/moither', gyda llaw, sef 'mwydro'.  "Oh, him!  He'd mither a nestful of rats."  "Don't mither me!"

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 11 March 2010 12:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: for[Spam score: 8%][Scanned]

 

A sôn am eiriau 'gwahanol', oes yna rywun yn gyfarwydd â'r gair 'nesh' i ddisgrifio tywydd rhynllyd? Dw i ddim yn gwybod ai gair Cymraeg ne Saesneg ydi o.

Rhian