Print

Print


Dw i'n rhyw feddwl mai'r ffaith bod angen y fannod o flaen y Gweinidog sydd
wedi dylanwadu ar hyn - gan mai'r patrwm naturiol yn Gymraeg ers talwm
fyddai 'Gweinidog y Plant'  - dw i wastad yn meddwl bod rhywbeth braidd yn
od am 'Y comisiynydd plant' ac mae rhai'n dweud 'Y Bwrdd Iaith' ond dw i'n
derbyn hefyd mai dyma'r drefn erbyn hyn. Ella mai rhyw hen reddf sy'n gwneud
inni feddwl bod 'y gweinidog tai' yn swnio'n od sy'n gyfrifol am y 'dros'?

Carolyn

 

  _____  

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 11 Mawrth 2010 10:28
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: ATB/RE: for

 

Mae hynny'n wir, ond yn yr enghreifftiau byr mae'n hurt.

----- Original Message ----- 

From: anna <mailto:[log in to unmask]>  gruffydd 

To: [log in to unmask] 

Sent: Thursday, March 11, 2010 9:37 AM

Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: ATB/RE: for

 

Sori, fedra i ddim meddwl am enghraifft rwan hyn ond dwi wedi dod ar draws
adegau pan fydd y teitl yn hwy ac angen y 'dros' na ne mi fasa'n amwys.

Annes

2010/3/11 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Clywch clywch, Osian!

----- Original Message ----- 

From: Rhys <mailto:[log in to unmask]>  Osian (AcadReg) 

To: [log in to unmask] 

Sent: Thursday, March 11, 2010 8:55 AM

Subject: ATB/RE: ATB/RE: ATB/RE: for

 

Ie ond mae’n rhaid i mi ddweud bod “dros” yn nheitl gweinidog yn fy nharo’n
od. Y Gweinidog dros Blant? Be sy’n bod ar y Gweinidog Plant, y Gweinidog
Addysg, y Gweinidog Tai...?

 

Osian

 


 

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 11 Mawrth 2010 07:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: for

 

Ar ôl i mi feddwl am 'in respect of' = 'ar gyfer' mi feddyliais i am
'Minister for ...' a 'dros' sy'n cael ei ddefnyddio yno! Dryslyd iawn!

Rhian