Print

Print


Felly yn y bon dan ni'n deud na does na ddim lle i'r brych 'ar gyfer'??? O ran myrrath, o lle doth o yn y lle cynta os dio mor wrthun?

Annes

2010/3/10 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
"pleidleisio dros" ymgeisydd faswn i, nid "pleidleisio iddo fo". Ond mi fyswn yn "rhoi fy mhleidlais iddo" (neu iddi).
 
Sylwebwyr peldroed sy'n fy nghorddi i wrth drio osgoi dweud "Ramsey ... i Giggs" gan ddweud "Ramsey ... at Giggs". Ond pasio'r bêl i Giggs mae o, nid ato fo. Mae gwahaniaeth rhwng taflu pêl at rywun a'i thaflu i rywun.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, March 10, 2010 5:03 PM
Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: for

Unwaith eto, diolch am yr hyder i ddilyn fy ngreddf a nhrwyn (wedi deud hynny, mi fydd esgymuno 'ar gyfer' yn gwneud tipyn o dolc yn y cyfri geiria!!!

Annes

2010/3/10 Rhys Osian (AcadReg) <[log in to unmask]>

Dw i’n cytuno Claire, mae “concerto i’r piano” yn swnio’n iawn i fi.

 

Wedi gweld ‘pleidleisio dros’ ond mae ‘pleidleisio i’ yn gywir hefyd ydy? Fydda i’n meddwl ddwywaith cyn pleidleisio iddyn nhw eto...

 

Sy’n fy atgoffa: ydy pawb wedi gweld y ddeiseb hon a lansiwyd heddiw? http://deiseb.cymdeithas.org/ Deiseb yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gadw at ei gair o ran y Mesur Iaith arfaethedig... llofnodwch hi! (Cytuno gyda David bod angen achub ‘llofnodi’...)

 

Osian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Sent: 10 Mawrth 2010 15:55
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: for[Spam score: 8%][Scanned]

 

I’r piano?

 

Gyda llaw, oes rhywun wedi crybwyll ‘dros’? Vote for = pleidleisio dros, the reason for = y rheswm dros...

 

Claire

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 10 March 2010 15:52
To: [log in to unmask]
Subject: for[Spam score: 8%][Scanned]

 

trafodaeth ddifyr iawn - a diolch i bawb am wneud i mi deimlo bod gen i rwydd hynt i osgoi 'aar gyfer' lle bynnag y medra i. Gyda llaw, be am gerddoriaeth - concerto ar gyfer y piano o hyd ta dan ni'n cael gwared a hwnnw hefyd?

Annes