Fe ges innau'r un broblem efo Deja Vu - ond does dim rhaid cael gwared ar y Gymraeg yn gyfangwbl - dim ond newid iaith fewnol y cyfrifiadur yn ol i'r Saesneg. Catrin ________________________________ From: John Dixon <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Monday, 1 March, 2010 11:08:32 Subject: Re: Windows ac Office yn Gymraeg Dwi ddim yn siwr os ydy hyn yn broblem gyffredinol, ynteu'n rhywbeth unigryw i mi, ond cefais i broblemau rhwng Trados a Word pan oeddwn i'n defnyddio Office yn Gymraeg. Ar ôl troi'n ôl at y Saesneg, diflannodd y problemau. Trueni mawr - ac annisgwyl - i feddalwedd cyfieithu fethu â gweithio'n iawn oherwydd gwahaniaeth iaith... John ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical > terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On > Behalf Of Geraint Lovgreen >Sent: 01 March 2010 > 10:51 >To: [log in to unmask] >Subject: > Windows ac Office yn Gymraeg > > >Diolch yn fawr am y wybodaeth ddefnyddiol Osian. > Dydi pobl sydd ddim yn dallt llawer am gyfrifiaduron (fel fi!) ddim yn > ymwybodol o'r pethau yma os nad ydi rhywun yn eu cyflwyno mewn ffordd hollol > syml, ac mae angen atgoffa o bryd i'w gilydd hefyd, gan fod datblygiadau'n > digwydd o hyd. > >Roedd Firefox gen i yn Gymraeg (a Facebook!) ond > rwan mae Microsoft Word hefyd. Hwre. > >Ond am ryw reswm, er imi lawrlwytho pecyn > Cymreigio Windows Vista, Saesneg ydi iaith Windows a Windows Mail o hyd. Hmm. > Dwi wedi trio diffodd y cyfrifiadur a'i ailgychwyn, ond dim >newid. > >Geraint >----- Original Message ----- >>From: Rhys Osian >> (AcadReg) >>To: [log in to unmask] >>Sent: Saturday, February 27, 2010 6:30 >> PM >>Subject: ATB/RE: ATB/RE: Porth Termau >> Cenedlaethol Cymru >> >> >>Mae’n >> ddrwg gen i bod hyn oddi ar y pwnc braidd, ond dim ond atgoffa pawb, o weld >> y drafodaeth, bod Windows ac Office ar gael yn Gymraeg... >> >> >>Os >> ca i geisio gwneud hyn yn berthnasol i’r drafodaeth ynghylch termau, byddwn >> i’n meddwl y byddai’n arbennig o bwysig i gyfieithwyr eu defnyddio yn >> Gymraeg, nid yn unig am y rhesymau amlwg (gan gynnwys “os na wnawn ni, pwy >> wnaiff?”), ond hefyd er mwyn ymgyfarwyddo â’r >> termau sy’n cael eu harfer ynddyn nhw (e.e. desktop = bwrdd gwaith) fel bod >> ein cyfieithiadau yn defnyddio termau sy’n gyson â’r >> hyn y bydd pobl sydd yn defnyddio meddalwedd Gymraeg wedi arfer ag >> e. >> >>Mae >> gwybodaeth am sut i gael Windows ac Office yn Gymraeg i’w gweld ar www.meddal.org.uk, gwefan wych sy’n >> rhestru llawer o feddalwedd arall, gan gynnwys meddalwedd agored, sydd ar >> gael yn Gymraeg hefyd... >> >>Mae >> Technoleg Gwybodaeth yn faes lle nad oes angen protest er mwyn cael stwff yn >> Gymraeg – jyst defnyddio beth sydd ar gael i ni tra bod cwmni mawr fel >> Microsoft yn fodlon talu am gyfieithiad safonol a sylweddol. Os ydych chi’n >> gweithio i sefydliad, gallwch ofyn i staff technegol osod Windows Cymraeg – >> dw i wedi dod yn erbyn gwrthwynebiad i hyn o’r blaen (“if you change your >> computer to Welsh, the central computer won’t be able to communicate with >> it”), ond rybish yw hynny, ac os mynnwch chi maen nhw’n ildio yn y pen draw >> yn fy mhrofiad i. >> >>Esgusodwch >> y bregeth ond ofni gweld dydd ydw i pan fydd Microsoft yn tynnu Cymraeg o’i >> restr o ddewis ieithoedd oherwydd diffyg defnydd. >> >>Osian >> >> >> >>From:Discussion of >> Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of >> CATRIN ALUN >>Sent: 26 Chwefror 2010 17:33 >>To: >> [log in to unmask] >>Subject: Re: ATB/RE: Porth >> Termau Cenedlaethol Cymru >> >>Diolch! >> Mae'n gweithio!! Erioed wedi gwneud hynny o'r >> blaen. >> >>Catrin >> >> ________________________________ >>From:David Bullock >> <[log in to unmask]> >>To: >> [log in to unmask] >>Sent: Friday, 26 February, >> 2010 17:18:55 >>Subject: ATB/RE: Porth Termau Cenedlaethol >> Cymru >>Word >> 2007 sy gen i, ac fel hyn yr es i ati: >> >>1. Amlygu’r >> URL, sef http://www.termau.org/porth/ a’i >> gopïo >>2. Symud >> i’r ‘desktop’ >>3. Rhoi >> clic dde ar y llygoden, sy’n codi dewislen fach >>4. Ar >> y ddewislen honno, dewis ‘New’, ac wedyn dewis >> ‘shortcut’. >>5. Yn >> y bocs o dan “Type the location of the item” gludo’r URL i >> mewn >> >>Et >> voila! >> >>From:Discussion of >> Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of >> CATRIN ALUN >>Sent: 26 Chwefror 2010 16:56 >>To: >> [log in to unmask] >>Subject: Re: Porth Termau >> Cenedlaethol Cymru >> >>Bydd hwn >> yn ddefnyddiol dros ben! >>Sut yn >> union mae gwneud yr hyn mae Tim (a Siân o bosib) wedi'i wneud >> plis? >> >>Catrin >> >> ________________________________ >>From:Siân Roberts >> <[log in to unmask]> >>To: >> [log in to unmask] >>Sent: Friday, 26 February, >> 2010 16:34:44 >>Subject: Re: Porth Termau Cenedlaethol >> Cymru >> >>Diolch am hwn. >> Fe fydd yn ardderchog, dwi'n siwr. >> >>Dwi'n meddwl mod i wedi gwneud yr >> un peth â Tim (ond dw i ddim yn siwr!) >> >>Siân >> >>On 26 Chwef 2010, >> at 15:49, Andrews,Tegau wrote: >> >>> Annwyl bawb, >>> >>> >> Dyma nodyn bach i'ch hysbysebu bod fersiwn beta o wefan Porth Termau >> Cenedlaethol Cymru nawr ar gael i chi ei defnyddio ar www.termau.org/porth >>> >>> Mae Uned Technolegau >> Iaith Canolfan Bedwyr wedi bod wrthi'n ddyfal yn creu'r wefan hon sy'n >> cyfuno geiriaduron termau safonol (ynghyd â'u diffiniadau), fel bod modd >> chwilio pob un ohonynt ag un clic. Ar hyn o bryd, mae'n cynnwys bron i 20 >> geiriadur termau, yn eu plith Geiriadur Termau Rheoli Coetiroedd, Geiriadur >> Termau Seicoleg a Geiriadur y Gyfraith, nad oeddent ar gael ar y we o'r >> blaen. >>> >>> Mae'r Porth yn cynnwys nodweddion chwilio uwch, er >> enghraifft y gallu i ddeall ffurfiau treigliedig, lluosogion a rhediadau >> berfol y Gymraeg. Mae hefyd yn blaenoriaethu canlyniadau yn ôl eu >> perthnasedd. >>> >>> Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi! >> :) >>> >>> Tegau >>> >>> --Tegau Andrews >>> >>> >> Terminolegydd >> >>> Uned Technolegau Iaith >> >>> Canolfan Bedwyr >> >>> Safle'r Normal >>> >> Prifysgol Bangor >>> >> Bangor >>> Gwynedd LL57 2PX >> >>> >>> ********** >>> >>> Terminologist >>> Language >> Technologies Unit >>> Canolfan Bedwyr >>> Normal Site >>> Bangor >> University >>> Bangor >>> Gwynedd LL57 2PX >>> >>> Ffôn/ >> Telephone: 01248 388618 >>> E-bost/ E-mail: [log in to unmask] >>> >>> --Gall y neges >> e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, >>> gynnwys deunydd >> cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig >>> gan y sawl y >> cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y >>> neges e-bost >> hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar >>> unwaith a dilëwch >> y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, >>> rhaid i chi beidio >> â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a >>> gynhwysir ynddi. >> Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i >>> hanfonodd yn >> unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn >>> Prifysgol >> Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu >>> bod y neges e-bost hon >> neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu >>> 100% yn ddiogel. Oni >> bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn >>> nhestun yr e-bost, >> nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract >>> rhwymol - mae >> rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa >>> Cyllid Prifysgol >> Bangor. www.bangor.ac.uk >>> >>> This email and any >> attachments may contain confidential material and >>> is solely for the >> use of the intended recipient(s). If you have >>> received this >> email in error, please notify the sender immediately >>> and delete this >> email. If you are not the intended recipient(s), you >>> must not >> use, retain or disclose any information contained in this >>> >> email. Any views or opinions are solely those of the sender and >> do >>> not necessarily represent those of the Bangor University. >>> >> Bangor University does not guarantee that this email or >>> any >> attachments are free from viruses or 100% secure. Unless >>> >> expressly stated in the body of the text of the email, this email is >>> >> not intended to form a binding contract - a list of authorised >>> >> signatories is available from the Bangor University Finance >>> >> Office. www.bangor.ac.uk >>No virus >> found in this incoming message. >>Checked by AVG - www.avg.com >>Version: 9.0.733 >> / Virus Database: 271.1.1/2710 - Release Date: 02/25/10 >> 19:57:00