Print

Print


Ymholiad amserol iawn Rhian gyda'r drafodaeth ar hyn o bryd ynghylch rhoi "hawliau iaith" i siaradwyr Cymraeg o gymharu â dim ond gosod dyletswydd ar sefydliadau... (gweler: http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/2010/03/mesur_wrth_fesur.html).

 

Tybed fydde 'deiliad' yn iawn ar gyfer dyletswydd hefyd? Mae 'deiliad dyletswydd' yn lond ceg braidd, ond mae'r sefydliad yn 'dal' y ddyletswydd fel mae'r unigolyn yn dal yr hawl, ydyn nhw? Wel jyst syniad...

 

Osian

		

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 09 Mawrth 2010 10:14
To: [log in to unmask]
Subject: rights holder / duty bearer

 

Oes gan rywun awgrym ar gyfer 'rights holder' a 'duty bearer' os gwelwch yn dda?

Dyma'r diffiniadau:

 

Rights holder - An individual or collection of individuals in possession of a right who can claim to see the right respected, protected and fulfilled. The rights holder may also have duties and obligations (thus also being a duty bearer) to other rights holders (see duty bearer). Companies and other commercial entities can also hold certain rights.

 

Duty bearer - A body or individual who has responsibilities and obligations towards rights holders, as enshrined in international and national law and human rights instruments. The State, as the prime duty bearer, has an obligation to respect and protect people's rights and provide children's rights (see rights holders)

 

Dw i'n cymryd y byddai 'deiliad hawliau' yn iawn am 'rights holder', ond dw i ddim yn siwr be i'w roi ar gyfer 'duty bearer'. 

Diolch

Rhian