He he - mi sonia i wrthyn nhw yn ein cyfarfod nesaf ni. 
 
Digon yw dweud ein bod ninnau wedi cael sawl un yn holi am datŵs dros y blynyddoedd, ac ein bod ni'n teimlo dan fwy o bwysau wrth geisio ateb y ceisiadau hynny na'r holl ymholiadau eraill gyda'i gilydd!
 
Pan fydd y ceisiadau hynny'n cyrraedd, mi fydda i bob tro'n meddwl am un o straeon Harri Parri, pan holodd un o drigolion Porth yr Aur beth fyddai'r Gymraeg am 'Praise Him'.  Er i Eilir Thomas y gweinidog nodi 'Molwch Ef' yn ddigon clir, gwaetha'r modd, "Molchwch Ef" a ysgrifennwyd mewn inc parhaol!
 
Cofion gorau,

Huw


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran David Bullock
Anfonwyd/Sent: 09 March 2010 15:18
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: pride and joy

Efallai y dylai Bwrdd yr Iaith wneud mwy i hysbysebu eu llinell gymorth nhw mewn siopau tatŵs?!

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhys Osian (AcadReg)
Sent: 09 Mawrth 2010 14:56
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: ATB/RE: pride and joy

 

Mae’n syndod hefyd faint o bobl ddi-Gymraeg dw i wedi cwrdd â nhw, pan ddeallan nhw mod i’n siarad Cymraeg, sydd wedi dangos eu tatw i fi a dweud “look, that’s love in Welsh” neu “that’s family in Welsh isn’t it?”. Mae rhai syml felly’n iawn fel arfer ond rhai sy’n gwneud i mi wingo tu mewn (ond cadw gwên radlon ar fy wyneb) yw rhai tebyg i’r un o’n i’n holi amdano bore’ma, rhai sy’n gyfieithiadau o fath o bethe fydde’n swnio’n iawn yn Saesneg, pethau fel “dim ond cariad sydd arnoch ei angen” neu “bob amser edrych ar yr ochr llachar o fywyd” :-/

 

Diolch bawb am eich awgrymiadau – wedi addasu fy neges at y gydweithwraig dan sylw ar ôl clywed eich barn.

 

Osian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 09 Mawrth 2010 13:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: pride and joy

 

Fydda i'n ymweld yn achlysurol â rhyw ddau fforwm trafod 'Cymreig' arall.

Mae'n syndod faint o bobl ddi-Gymraeg o bedwar ban byd sy'n awyddus i gael tatwod Cymraeg - a faint o bobl lled anwybodus sy'n barod i gynnig geiriau iddyn nhw eu hysgythru ar eu cyrff.

 

 

On 9 Mawrth 2010, at 13:25, anna gruffydd wrote:

 

Sgin ti unrhyw syniad faint mae'n ei gostio i ddileu neu newid tatw Ann?!!

Annes

2010/3/9 Ann Corkett <[log in to unmask]>

>Reit, ydw i’n gywir bod “either of those three” yn dderbyniol?

I mi, byddai “any one of those three would be” yn fwy derbyniol, gan ei bod hi’n well cadw “either” at ddewis rhwng dau beth yn unig.

 

Gadawaf i bobl Gymraeg iaith gyntaf roi eu barn ynghylch y dewis. Yn bersonol, awgrymwn y dylid ystyried teimladau’r plentyn yn y dyfodol.  Ond mae’n debyg nad fyddai’n rhy anodd newid  “fy mabi Joey” yn “fy mab - Joey” petai angen!

 

Ann

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhys Osian (AcadReg)
Sent: 09 March 2010 11:49
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: pride and joy

 

Yn dilyn dau awgrym a anfonwyd yn uniongyrchol ata i gan Howard Huws y bore’ma (diolch Howard), rown i’n bwriadu anfon tri awgrym gyda llaw, ffafr yw hon i aelod o staff sydd wedi cysylltu â ni fel staff sy’n ymwneud â’r Gymraeg (does dim uned gyfieithu yma), ac yn enw magu ewyllys da at y Gymraeg rydyn ni am helpu os gallwn ni!

Tatw yw hwn a fydd yn enwi mab y “tatwai”. Beth maen nhw eisiau ei ddweud yw “My baby Joey, my pride and joy” yn Gymraeg... Roeddwn i’n mynd i wneud tri awgrym:

 

1.      Fy mabi Joey, fy malchder a’m llawenydd

2.      Fy mabi Joey, cannwyll fy llygad

3.      Fy mabi Joey, gwerth y byd i mi

The first is a literal translation of the words ‘my pride and joy’, which would not be a familiar saying in Welsh. The second is a familiar saying that means ‘the apple of my eye’ (literally the candle of my eye), and the third is also a familiar saying, which says ‘means the whole world to me’.

Either of those three are acceptable. Personally I would go for the third one, but that’s just a personal preference. Whatever you go with, if anything is added or changed to any of these I would suggest you or your friend checks with a fluent Welsh speaker, preferably a translator, before getting it done. I have in the past seen tattoos in Welsh with quite drastic mistakes on them, but obviously once they are on your body it is too late to change them…

Reit, ydw i’n gywir bod “either of those three” yn dderbyniol? Poeni am y cyntaf ydw i fwyaf; ydy’n bosib dweud mai eich babi ydy eich “balchder”?? Gan y bydd hyn wedi ei staenio ar gorff rhywun am sbel go hir, dw i ddim am roi  cyngor anghywir... Ond gan fod y cyntaf uchod yn awgrym gan rywun dw i ddim chwaith am ei ddiystyru os yw e’n iawn, gan ei fod o leiaf yn nes at eiriad y gwreiddiol...

(Mae’r mab dan sylw yn fabi ar hyn o bryd. Dw i ddim yn teimlo mai fy lle i yw tynnu sylw at y ffaith na fydd e’n fabi am hir iawn...)

Diolch yn fawr am bob cymorth,

Osian

 

               

_____________________________________________
From: Rhys Osian (AcadReg)
Sent: 09 Mawrth 2010 08:38
To: 'Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary'
Subject: pride and joy

Bore da bawb

Cwestiwn tatw...

A oes rhywbeth gwell/mwy ‘cool’ na ‘Fy malchder a’m llawenydd’ ar gyfer cyfieithu ‘My Pride and Joy’ ar gyfer tatw?

Does gen i ddim mwy o gyd-destun na hyn ar hyn o bryd.

Croesawu unrhyw awgrymiadau/sylwadau!

Diolch,

Osian

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.733 / Virus Database: 271.1.1/2730 - Release Date: 03/09/10 07:33:00

 

 

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.733 / Virus Database: 271.1.1/2730 - Release Date: 03/08/10 19:33:00