Anfonwyd ar ran Cyfle - www.cyfle.co.uk 

--
YN EISIAU PEDWAR RHEOLWR ASED CYFRYNGOL
Wyt ti eisiau gweithio mewn archifau cyfryngol, mewn swydd sy’n amrywio bob dydd?


CYNLLUN HYFFORDDI ATODIAD 8 WYTHNOS I 4 RHEOLWR ASED CYFRYNGOL

Mae CYFLE yn falch iawn o allu cyhoeddi ein bod yn recriwtio ar gyfer cynllun newydd sbon sydd â’r bwriad o hyfforddi pedwar Rheolwr Ased Cyfryngol ar gyfer archifau.  Mae hwn yn gynllun hyfforddi atodiad llawn amser dwys dros 8 wythnos i unigolion sydd wedi bod yn gweithio yn y diwydiannau creadigol am leiafswm o 12 mis.

Mae hwn yn gyfle unigryw i fod yn rhan o fenter gwych sy’n cynnig y cyfle i unigolion talentog i ennill profiad go iawn yn y diwydiant; hyfforddi mewn swydd; datblygu sgiliau arbennig; a derbyn cefnogaeth ac arweiniad parhaus gan bobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant.

Diddordeb?  Cofia, ar gyfer y cynllun hwn rhaid i ti
- Fod yn 21 oed neu’n hŷn (dim cyfyngiad oedran uwch)
- Fod wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol am leiafswm o 12 mis.
- Fod yn byw yn y DU.
- Sgiliau T.G. ardderchog a sgiliau cyfathrebu a gyda’r gallu i gyfathrebu mewn ffordd briodol ar bob lefel.
- Mae Cyfle yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac annogir ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.

Yn fyr..
- Cwrs hyfforddi galwedigaethol llawn amser dros 8 wythnos
- Lleolir mewn nifer o leoliadau gan gynnwys BBC Cymru Wales a ITV Cymru
- Bydd hyfforddeion yn derbyn lwfans hyfforddi wythnosol

- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12yp, 8fed Ebrill 2010
- Cynhelir cyfweliadau rhwng y 13eg a’r 14eg o Ebrill 2010
- Dyddiad dechrau’r cynllun: 24ain o Fai 2010

Dwi am ymgeisio..

Ewch i’n gwefan am fwy o fanylion a phecyn ymgeisio (gyda ffurflen gais arlein) www.cyfle.co.uk

Cyswllt 01286 685242 / [log in to unmask]

--

Nid yw'r ffaith bod gwybodaeth trydydd parti wedi'i chynnwys yng Ngwasanaeth Gwybodaeth CyMAL yn golygu bod CyMAL yn ei chymeradwyo. Nid yw CyMAL yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd digwyddiadau, cynhyrchion neu wasanaethau trydydd parti y sonnir amdanynt yn y Gwasanaeth hwn. Er ein bod wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir, nid yw CyMAL na'r golygydd yn atebol am unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad.

---
Elizabeth Bennett

Swyddog Cyngor a Chefnogaeth - Advice and Support Officer

CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Assembly Government

Rhodfa Padarn,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3UR.

Ffon/Tel: 0300 062 2101
Fax/Ffacs: 0300 062 2052
e-bost/e-mail: [log in to unmask]


The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet virus scanning service supplied by Cable&Wireless in partnership with MessageLabs. (CCTM Certificate Number 2006/04/0007.) On leaving the GSi this email was certified virus free.
Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.

Cafodd fersiwn gwreiddiol y neges e-bost hon ei sganio gan wasanaeth gwrthfeirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a ddarparwyd gan Cable&Wireless mewn partneriaeth â MessageLabs. (Rhif Tystysgrif CCTM 2006/04/0007). Wrth adael y GSI nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.
Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSI yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.