Print

Print


Y cyntaf sydd orau (Sais/Saesnes; Cymro/Cymraes...)

Gallai rhywun fod yn dod o Loegr heb ystyried mai Sais ydoedd.
  ----- Original Message ----- 
  From: Symons, David 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Wednesday, February 10, 2010 10:46 AM
  Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Seisnig


  Trafodaeth ddiddorol wir!

   

  Dw i ddim yn hoff o ‘Seisnig’ o gwbl chwaith. 

   

  Ar ffurflenni monitro ethnig dw i’n gweld e (ac wedi bod yn euog o’i ddefnyddio ambell waith) o dan y cwestiwn ‘Ydych chi’n ystyried eich bod yn/Do you consider yourself to be...’, wedi’i ddilyn gan restr opsiynau megis ‘English’, ‘Welsh’, ‘Scottish’ ac ati. Pryd hynny mae’n gallu mynd yn lletchwith.

   

  Felly, beth yw barn aelodau’r cylch ynglŷn â’r ffordd orau o oresgyn y sefyllfa hon?

   

  Sais/Saesnes; Cymro/Cymraes (ac ati)

   

  neu

   

  Dod o Loegr; Dod o Gymru (ac ati)

   

  neu 

   

  rywbeth arall?

   

  David Symons

  Cyfieithydd / Translator

  Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund 

   

  [log in to unmask]

  029 2067 8246

  Dilynwch ni ar Twitter - http://twitter.com/BigCymru 

  Follow us on Twitter - http://twitter.com/BigCymru

   

  Mae’r e-bost hwn yn gyfrinachol ac fe’i fwriedir at ddefnydd yr unigolyn a enwir arno’n unig. Ni fydd cynnwys y neges hon yn rhwymol ar y Gronfa Loteri Fawr mewn unrhyw ffordd. Mae’n rhaid i farn, gasgliadau, rwymedigaethau contract a gwybodaeth arall yn y neges hon gael eu cadarnhau’n benodol yn ysgrifenedig gan y Gronfa Loteri Fawr i’r graddau y maent yn gysylltiedig â busnes swyddogol y Gronfa Loteri Fawr. Os nad chi yw’r derbynnydd bwriadedig, bydded hysbys eich bod wedi derbyn yr e-bost hwn trwy gamgymeriad a bod defnyddio, lledaenu, anfon ymlaen, argraffu neu gopïo’r e-bost hwn wedi’u gwahardd yn llwyr. Yn ogystal â hynny, gall yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr e-bost hwn fod yn destun datgelu cyhoeddus o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

   

  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Megan Tomos
  Sent: 10 Chwefror 2010 10:21
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Seisnig

   

  Trafodaeth ddiddorol iawn sy'n dangos mor bwysig yw hi i drafod gyda Chymry Cymraeg ( mae'n ddrwg gen i, siaradwyr Cymraeg!) wrth fynd ati i fedyddio cwmniau/cerddorfeydd a chystadlaethau newydd.  Os nad oes siaradwr Cymraeg abl yn y cwmni, mae'n bwysig trafod efo'r cyfieithydd.
   
  Ynglŷn â Chymreig mae'r fath beth yn bod ag arddull Gymreig mewn sawl maes, ac ni ddylid cyfyngu hynny i rywbeth sydd i'w weld neu ei glywed yng Nghymru.  Soniodd darlithydd Cerdd yn ddiweddar am ddylanwad cerddoriaeth Gymreig ar Beethoven, Handel a Haydn!!!
   
  Megan 
   


------------------------------------------------------------------------------

  Date: Tue, 9 Feb 2010 20:03:39 +0100
  From: [log in to unmask]
  Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Seisnig
  To: [log in to unmask]

  Fel cyfieithydd Artist y Flwyddyn Cymru a Proms Cymru  fuom i'n brwydro am hydoedd i gael newid y rhain o be oedden nhw cynt - Artist Cymreig y Flwyddyn a'r Proms Cymreig - lol botas maip y ddau ohonyn nhw gan na doedd na affliw o ddim byd Cymreig yn eu cylch nhw. O'r diwedd mi ges i newid yr enwa - pan ddaeth cyfnod y logo i ben! Yn achos Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC - eto, mae hwn yn enw cwbwl gyfeiliornus ond mae bellach wedi ennill ei blwy a gallwn weld cymhethdoda fyrdd yn dod i'r fei gan fod yna fannod yno'n barod (y BBC) felly byddai defnyddio Cymru yn lle Cymreig yn yr achos yma'n creu pob matha o strach. Byddai'n well gen i 'Cerddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC' neu 'Cerddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru' ond does arna i ddim isio wynebu'r cymhlethdoda allai ddeillio o wneud hynny!

  Annes

  2010/2/9 Rhys Osian (AcadReg) <[log in to unmask]>

  Un ffordd o oresgyn eich pryder yn y paragraff olaf, David, yw defnyddio'r fannod; dw i wedi gweld pobl yn defnyddio "Cynllun y Gymraeg", "Swyddog y Gymraeg" ac ati, a byddwn i'n cytuno gyda Carolyn nad oes angen yr "iaith" fel arfer, er fy mod i'n euog o'i ddefnyddio'n aml mae'n siwr... Ond mae'r peth yn gymhlethach na hynny wrth gwrs gan ein bod yn tueddu i hepgor y gair Cymraeg wrth ei ddweud: Bwrdd yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Swyddog Iaith, achos mae'n amlwg pa iaith yw hi yn un peth, ond falle hefyd bod ein clustiau'n gwybod bod dweud "yr iaith" a "Cymraeg" gyda'i gilydd yn ddiangen?

  Ta waeth, dw i'n cytuno gyda'r hyn ddywedodd Berwyn yn gynharach -- mae "artist Cymreig" ac ati yn fy nharo i'n od bob tro y bydda i'n ei ddarllen. I fi, pwysleisio Cymreigrwydd rhywun fyddwch chi wrth ddweud eu bod yn Gymreig, nid dweud o ble maen nhw'n dod, sy'n wahanol i "Welsh" yn Saesneg.

  Osian



  -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David Bullock
  Sent: 09 Chwefror 2010 15:53
  To: [log in to unmask]
  Subject: ATB/RE: Seisnig

  Ac eto i gyd, ambell waith mae cynnwys y gair 'iaith' yn *swnio* yn well o
  leia: 'Cymdeithas y Gymraeg' neu 'Cymdeithas yr Iaith Gymraeg'?!

  Ac weithiau, mae'n teimlo fe pe bai'n rhaid ei gael e, er mwyn gwahaniaethu
  rhwng ystyr ymadroddion tebyg:

  Dwi'n credu y gallai 'cynllun Cymraeg' olygu cynllun sydd wedi'i lunio yn
  Gymraeg, ond dyw e ddim yn dweud wrthoch chi mai cynllun sy'n ymwneud â'r
  iaith yw e; ond mae 'cynllun iaith Gymraeg' yn gadael ichi wybod mai'r iaith
  sy dan sylw yn y cynllun.




  -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
  [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn
  Sent: 09 Chwefror 2010 15:25
  To: [log in to unmask]
  Subject: ATB: Seisnig

  Rhywbeth arall yn yr un maes yw defnyddio 'iaith Gymraeg' i gyfieithu 'Welsh
  language' Dw i ddim yn gweld bod angen 'iaith' yn Gymraeg - mae Cymraeg yn
  golygu'r iaith tydi? Yr unig reswm y defnyddir 'language'  yn Saesneg yw er
  mwyn gwahaniaethu rhwng 'Cymreig' a 'Cymraeg'.

  Carolyn

  -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
  Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
  vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
  Anfonwyd/Sent: 09 Chwefror 2010 15:20
  At/To: [log in to unmask]
  Pwnc/Subject: Re: Seisnig

  Diolch - ddois i ar draws rhywbeth yn sôn am fwydydd Cymreig yn
  ddiweddar - ond doedden nhw ddim yn Gymreig - dim ond eu bod wedi'u
  tyfu/prosesu yng Nghymru.

  Mae hynna'n help


  On 9 Chwef 2010, at 11:49, D.Prys wrote:

  > Cefais gais yn ddiweddar i drafod yr ansoddair 'Seisnig' . Y
  > cwestiwn oedd "ydy e'n iawn defnyddio'r ansoddair 'Seisnig' i
  > ddynodi pobl e.e. cyfansoddwr Seisnig, actor Seisnig, ffotograffydd
  > Seisnig neu oes rhaid i ni ddefnyddio 'cyfansoddwr o Loegr' ac ati?"
  >
  > Dyma'r ateb a roddais (rhag ofn iddo fod o ddiddordeb i aelodau'r
  > cylch):
  >
  > "Darllen y gosodiad ar ddiwedd llyfr Gwen Pritchard Jones Dygwyl
  > Eneidiau ei bod hi wedi seilio'r prif gymeriad ar 'filwr Albanaidd'
  > wnaeth i mi benderfynu'n derfynol mai cyfieithiad i'r Gymraeg oedd
  > rhannau (o leiaf) o'r nofel honno.  'Milwr o'r Alban' neu 'milwr o
  > Albanwr' fyddai'r disgrifiad 'naturiol' yn Gymraeg. Byddwn i'n
  > dadlau, felly, na ddylid defnyddio 'Seisnig' ond i gyfeirio at
  > rhywbeth cynhenid Seisnig.
  >
  > "Yng Ngeiriadur yr Academi, cewch chi 'an English poet - bardd
  > Saesneg, (if an Englishman) bardd o Sais'.  Efallai y byddai hi
  > wedi bod yn gliriach petai'r cofnod wedi manylu ymhellach ac wedi
  > dweud 'an English-language poet' o flaen 'bardd Saesneg'. Gall
  > bardd Saesneg fod yn Gymro, yn Wyddel, yn Sais (wrth gwrs) neu
  > berthyn i unrhyw genedl dan haul.
  >
  > "Ystyr 'cyfansoddwr Seisnig', 'actor Seisnig' a 'ffotograffydd
  > Seisnig', felly, yw un sy'n cyfansoddi, yn actio neu'n tynnu
  > ffotgraffau mewn dull Seisnig, ac nid Sais neu Saesnes o
  > angenrheidrwydd. Gwell dweud 'y cyfansoddwr o Sais' neu 'y Sais o
  > gyfansoddwr' neu 'y cyfansoddwr o Loegr' (ond rhaid cofio y gallai
  > 'cyfansoddwr o Loegr' beidio â bod yn Sais o waed coch cyfan)."
  >
  > Berwyn
  >
  > --
  > Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
  > gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
  > gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
  > neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
  > unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
  > rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
  > gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
  > hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
  > Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
  > bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
  > 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
  > nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
  > rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
  > Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk
  >
  > This email and any attachments may contain confidential material and
  > is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
  > received this email in error, please notify the sender immediately
  > and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
  > must not use, retain or disclose any information contained in this
  > email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
  > not necessarily represent those of the Bangor University.
  > Bangor University does not guarantee that this email or
  > any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
  > expressly stated in the body of the text of the email, this email is
  > not intended to form a binding contract - a list of authorised
  > signatories is available from the Bangor University Finance
  > Office.  www.bangor.ac.uk
  >
  > <eds017.vcf>
  No virus found in this incoming message.
  Checked by AVG - www.avg.com
  Version: 9.0.733 / Virus Database: 271.1.1/2676 - Release Date: 02/08/10
  19:35:00

   


------------------------------------------------------------------------------

  We want to hear all your funny, exciting and crazy Hotmail stories. Tell us now
  _____________________________________________________________________

  This e-mail has been scanned for all viruses by Star. The
  service is powered by MessageLabs. For more information on a proactive
  anti-virus service working around the clock, around the globe, visit:
  http://www.star.net.uk
  _____________________________________________________________________


  This email is confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed. The contents of this message will not be in any way binding upon the Big Lottery Fund. Opinions, conclusions, contractual obligations and other information in this message, in so far as they relate to the official business of the Big Lottery Fund, must be specifically confirmed in writing by the Big Lottery Fund. If you are not the intended recipient, be advised that you have received this email in error and that any use, dissemination, forwarding, printing, or copying of this email is strictly prohibited. Additionally, the information contained in this email may be subject to public disclosure under the Freedom of Information Act 2000.