Print

Print

'Pre Pago' sy'n cael ei ddefnyddio yn Sbaeneg, sy'n dilyn patrwm yr Unol Daleithiau 'Pre-Paid' (hyd y gwn i, ni ddefnyddir 'pay as you go' yn yr Unol Daleithiau). Mae'r rhain yn dueddol o ddisgrifio'r broses yn well am y gwela i - sef talu swm penodol fydd yn parhau am gyfnod penodol neu nes bydd wedi ei ddisbyddu - na 'pay as you go / talu wrth ddefnyddio'.

Elin

2010/2/23 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Does dim pwynt delfrydu sefyllfaoedd gwledydd eraill. Synnwn i ddim nad "pay as you go" fyddan nhw'n ei ddeud yn Ffrainc , ar batrwm "le weekend, le shampooing" ac ati.
 
Mae'r Almaen hefyd ymhell o ymffrostio yng nghryfder eu hiaith ac yn derbyn geiriau Saesneg i'r graddau bod pobl yn cwyno nad ydyn nhw'n deall peiriannau talu yn eu gorsafoedd trenau.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Robin Hughes
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, February 23, 2010 11:57 AM
Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Pay as you go

Ydych chi wir yn meddwl y byddai ‘talu yn ôl defnydd’ yn ei gwneud hi’n anodd i Gymro Cymraeg ddeall yr ystyr?! Ydyn, rydyn ni’n sicr yn byw mewn byd amlieithog, ond does dim angen i bobl feddwl mewn mwy nag un iaith wrth ddarllen testun er mwyn ei ddeall.

Ai cyfieithu geiriau neu’r ystyr yw gwaith cyfieithydd? Hynny ydy, os ydy’r ystyr yn glir, does dim angen meddwl am derm neu ddywediad yn y Saesneg er mwyn ei ddeall.

Dwi’n deall yn iawn bod pobl yn gyfarwydd â ‘pay as you go’, ond mae dweud bod yn rhaid cyfieithu hynny air am air er mwyn symleiddio pethau yn peri pryder. Y gwir amdani yw nad oes cyfieithiad ar gyfer ‘pay as you go’ wedi ennill ei blwyf eto, ond unwaith y bydd un cyfieithydd yn dechrau defnyddio un enghraifft, buan iawn y bydd yn cydio.

Dwi’n cytuno nad oes angen cymharu â’r ‘bobl uniaith drws nesa’, ond y gwahaniaeth mwya rhwng y Cymry â phobl amlieithog eraill y byd yw eu bod nhw yn ymffrostio yng nghryfder eu ieithoedd ac yn mynegi eu hunain yn eu harddull eu hunain yn hytrach na dilyn patrwm y Saesneg yn rhy agos ar draul yr ystyr.

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 23 February 2010 11:32
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: ATB/RE: Pay as you go

Pam truenus? Dyna’r byd rŷn ni’n byw ynddo.

Mae’n debyg bod y rhan fwya o bobl y byd yn byw bywyd dwyieithog (neu fwy-na-dwyieithog?). Yn lle cymharu â’r bobl uniaith drws nesa o hyd, mae’n deg cofio weithiau fod gennyn ni fwy yn gyffredin â holl bobl amlieithog y byd.

Felly, dyw hi ddim o reidrwydd yn beth truenus bod rhywun yn dod yn gyfarwydd â ‘pay as you go’ yn ei fywyd cyn iddo ddod ar draws unrhyw sôn am ‘dalu wrth fynd’.

Ydyn ni am ei gwneud yn hawdd i’r sawl sy’n gyfarwydd â ‘pay as you go’ godi term Cymraeg cyfatebol, neu ei gwneud yn anodd iddo?

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Robin Hughes
Sent: 23 Chwefror 2010 10:33
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Pay as you go

O diar! Mae’n sefyllfa druenus dros ben os nad yw pobl yn gallu darllen a deall testun Cymraeg heb ei gyfieithu i’r Saesneg yn gyntaf! Does bosib bod ‘talu yn ôl defnydd’ yn ddigon dealladwy yn ei gyd-destun?

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 23 February 2010 10:27
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Pay as you go

Ydy hyn yn un enghraifft lle byddai’n gall cyfieithu’n llythrennol, efallai?

Gofynnwch i bobl a ydyn nhw’n deall ‘talu wrth fynd’ ac fe fyddai lot fawr yn gallu ateb: ‘pay as you go’, gan fod y Saesneg mor gyfarwydd ynglyn â ffonau ac ati.

Dwy ddim yn credu y byddai ‘talu fesul tro’, ‘talu yn ôl defnydd’, ‘talu ar y pryd’, etc yn peri i bobl feddwl am ‘pay as you go’ yr un mor rhwydd.

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 23 Chwefror 2010 10:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Pay as you go

"Talu yn ôl defnydd" te? Achos y prif gysyniad ydi mai dim ond am y defnydd rydych chi'n ei wneud ohono rydych chi'n talu.

Ond o Wglo mae'n ymddangos mai "talu wrth ddefnyddio" (2,100 enghraifft) a "talu wrth fynd" (1,600) sy'n fwyaf cyffredin. 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Carolyn

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, February 23, 2010 9:46 AM

Subject: ATB: Pay as you go

Mae 'Talu ar y pryd' yn swnio'n well ond dw i ddim yn hollol siwr ydy hynny'n cyfleu'r ystyr - e.e. efo ffôn 'pay as you go' , dach chi'n prynu'r credit ymlaen llaw a dweud y gwir - felly dydy'r Saesneg ddim yn cyfleu'r peth yn union chwaith. Talu cyn defnyddio mae rhywun mewn gwirionedd yn hytrach na thalu bil ddiwedd y mis.

Carolyn

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Megan Tomos
Anfonwyd/Sent: 23 Chwefror 2010 06:54
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Pay as you go

Gwell o lawer.
 
Megan
 
> Date: Mon, 22 Feb 2010 22:21:18 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Pay as you go
> To: [log in to unmask]
>
> Neu 'Talu ar y pryd'?
>
> 2010/2/21 Megan Tomos <[log in to unmask]>:
> > Neu 'Talu ar y tro' neu 'Talu bob tro' ?
> >
> > Megan
> >
> >> Date: Sun, 21 Feb 2010 17:53:35 +0000
> >> From: [log in to unmask]
> >> Subject: Re: Pay as you go
> >> To: [log in to unmask]
> >>
> >> Dwi'n cael dim trafferth yn defnyddio 'defnyddio'. Ond os am rywbeth
> >> byrrach, beth am rywbeth fatha 'talu fesul tro'?
> >>
> >> Eluned
> >>
> >> 2010/2/17 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> >> > Mae 'talu wrth fynd' yn dipyn llai o lond ceg! Pam arall mae pobol yn
> >> > deud
> >> > 'iwsio' yn lle 'defnyddio'?
> >> >
> >> > ----- Original Message -----
> >> > From: CATRIN ALUN
> >> > To: [log in to unmask]
> >> > Sent: Wednesday, February 17, 2010 11:16 AM
> >> > Subject: Re: Pay as you go
> >> > Cytuno Claire - diolch!
> >> > ________________________________
> >> > From: Claire Richards <[log in to unmask]>
> >> > To: [log in to unmask]
> >> > Sent: Wednesday, 17 February, 2010 10:50:21
> >> > Subject: Re: Pay as you go
> >> >
> >> > Mae ‘talu wrth ddefnyddio’ i’w weld hyd yn oed yn fwy poblogaidd.  Ac yn
> >> > gwneud mwy o synnwyr, efallai, wrth sôn am ffonau ac ati?
> >> >
> >> >
> >> >
> >> > Claire
> >> >
> >> >
> >> >
> >> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> >> > [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of CATRIN
> >> > ALUN
> >> > Sent: 17 February 2010 10:40
> >> > To: [log in to unmask]
> >> > Subject: Pay as you go[Spam score: 9%][Scanned]
> >> >
> >> >
> >> >
> >> > Wedi edrych yn ol drwy'r archif, a dwi ddim yn credu i ni ddod i unrhyw
> >> > benderfyniad ar hwn y tro dwytha.
> >> >
> >> >
> >> >
> >> > Ai 'talu wrth fynd' sy'n cael ei ddefnyddio bellach?
> >> >
> >> >
> >> >
> >> > Catrin
> >
> > ________________________________
> > Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free

Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.733 / Virus Database: 271.1.1/2702 - Release Date: 02/22/10 19:34:00

______________________________________________________________________
This email has been scanned by the MessageLabs Email Security System.
______________________________________________________________________

Web: http://www.ims-media.com

The information in this email is confidential and may be legally privileged
for use by the addressee only. If you are not the intended recipient, you
must not use, disclose, distribute, copy, print or relay on this message.
Please notify the sender by return email and then delete the message from
your computer. IMS accepts no responsibility for changes made to this
message after it was sent. Although this email and any attachments are
believed to be free of any virus, or any other defect which might affect any
computer or IT system into which they are received and opened, it is the
responsibility of the recipient to ensure that they are virus free and no
responsibility is accepted by IMS for any loss or damage arising in any way
from receipt or use thereof. Any opinions or advice contained in this email
are not necessarily those of IMS.

IMS is the trading name of Independent Media Support Ltd registered in England, 2425634.
The registered office is 10 Carlisle Street, London W1D 3BR.