beth am nythu? ----- Original Message ----- From: anna gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Monday, February 15, 2010 9:53 AM Subject: Re: brawddeg anodd Ia, dyna be wnes i yn y diwedd. Meddwl defnyddio 'clwydo' am settled down - ydi 'clwydo mewn gwynfyd ar yr aelwyd' yn erchyll?? Dwi wedi drysu'n lan erbyn hyn! Annes 2010/2/15 Claire Richards <[log in to unmask]> Dwi ddim yn gwybod am ‘settled down’, ond i gyfieithu ‘so they hoped’, beth am ‘neu dyna oedd eu gobaith’? Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd Sent: 15 February 2010 09:02 To: [log in to unmask] Subject: brawddeg anodd Sori bod y pennawd mot benagored. Dydi hon ddim i'w gweld yn frawddeg anodd i ddechra ond coeliwch neu beidio dwi wedi bod yn crafu mhen drosti ers cryn hanner awr. Once all obstacles were removed, the Schumanns settled down to domestic bliss – so they hoped – and also to an artistic union remarkable for its time. Mae 'settle down' yn anodd, heb son am 'so they hoped' - mae popeth dwi wedi meddwl amdano fo'n glogyrnaidd - unrhyw ysbrydoliaeth ar fore Llun trybeilig o oer? Diolch. Annes