Sori bod y pennawd mot benagored. Dydi hon ddim i'w gweld yn frawddeg anodd i ddechra ond coeliwch neu beidio dwi wedi bod yn crafu mhen drosti ers cryn hanner awr.
Mae 'settle down' yn anodd, heb son am 'so they hoped' - mae popeth dwi wedi meddwl amdano fo'n glogyrnaidd - unrhyw ysbrydoliaeth ar fore Llun trybeilig o oer? Diolch.