Print

Print


Sori bod y pennawd mot benagored. Dydi hon ddim i'w gweld yn frawddeg anodd
i ddechra ond coeliwch neu beidio dwi wedi bod yn  crafu mhen drosti ers
cryn hanner awr.

 Once all obstacles were removed, the Schumanns settled down to domestic
bliss – so they hoped – and also to an artistic union remarkable for its
time.

Mae 'settle down' yn anodd, heb son am 'so they hoped' - mae popeth dwi wedi
meddwl amdano fo'n glogyrnaidd - unrhyw ysbrydoliaeth ar fore Llun trybeilig
o oer? Diolch.

Annes