Ond onid yden ni'n poeni gormod am ddefnyddio yr un gair mewn gwahanol sefyllfaoedd. Oni fydd y cyd-destun yn gwneud yr ystyr yn amlwg? Mae iaith wedi arfer defnyddio'r un gair mewn gwahanol gyd-destunau. Mae peryg newid natur iaith wrth fynnu creu geiriau'n ribidirês ar gyfer pob cyd-destun.
Megan
Date: Sun, 14 Feb 2010 15:33:09 -0500
From: [log in to unmask]
Subject: Re: nurture
To: [log in to unmask]
'Swn i'n dweud ei fod, Megan,( tafodieithol h.y.- ac yn fenthyciad o'r Saesneg - succour!) ac er amheuaeth Sian faswn i'n sticio at 'faeth' - mae'r gweddill o'r rhai a ddefnyddir gennych, Sian, yn cynnwys yr elfen 'nurture' e.e. 'foster-mother' neu 'nurse' yw mam faeth/maethfam - sef, yn wreiddiol, un a fwydai plentyn o'r fron oherwydd nad oedd y fam yn gallu bwydo, neu yn gwrthod bwydo'r, baban.Yn bendant mae llai o gymysgwch nag y byddai meithrin yn ei achosiAlwyn
Got a cool Hotmail story? Tell us now