F.Y.I
Culturenet Cymru Digido Gweithdai
Mae Culturenet Cymru yn cynnal cyfres o weithdai gyda’r bwriad o annog digido o fewn y sector treftadaeth yng Nghymru. Mae creu cynnwys digidol yn ganolog i strategaeth nifer o sefydliadau ac i hwyluso’r gwaith, mae Culturenet wedi datblygu set o ganllawiau ar y gwahanol agweddau o ddigido.
Bydd y gweithdai yn gyfle i glywed siaradwyr gwâdd yn trafod eu profiadau o ddigido ac yn rhoi cipolwg ar y potensial sydd gan ddigido i gyfoethogi casgliadau, estyn allan i’r sector addysg a grwpiau cymunedol, yn ogystal â’i ddefnydd ar gyfer arddangosfeydd a marchnata.
Bydd pawb sy’n mynychu yn derbyn copi o ganllawiau digido Culturenet Cymru sy’n cynnwys modiwlau ar hawlfraint, metadata, paratoi sganwyr a sganio, paratoi delweddau ar gyfer y we, archifo digidol a chadwraeth. Maent yn ganllawiau syml gyda chamau hawdd i’w dilyn yn ogystal â ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach.
Bydd staff Culturenet Cymru a CyMAL yn bresennol yn y digwyddiadau i ateb cwestiynau a chynnig cyngor ar ddigido yn ei holl agweddau – o chwilio am gyllid i arddangos eich casgliadau ar y we, a phopeth yn y canol!
Lleoliad y Digwyddiad: Y Galeri Caernarfon
Dyddiad y Digwyddiad: 02/03/2010
Lleoliad y Digwyddiad: Coleg Powys Llandrindod Wells
Dyddiad y Digwyddiad: 03/03/2010
Lleoliad y Digwyddiad: Canolfan Dylan Thomas Abertawe
Dyddiad y Digwyddiad: 04/03/2010
Culturenet Cymru Digitisation Workshops
Culturenet Cymru is holding a series of workshops designed to encourage digitisation within the heritage sector. Creating digital content is central to the future strategy of many institutions and to facilitate its creation Culturenet has developed a set of guidelines on the different aspects of digitisation.
The workshops will be an opportunity to hear guest speakers discuss their experiences of digitisation and provide a glimpse of the vast potential of digitisation to enhance collections, reach out to education and community groups, as well as its use for exhibitions and marketing.
Attendees will also be given a copy of the Culturenet Cymru ‘toolkit’ which contains modules on copyright, metadata, scanner preparation and scanning, web preparation and display, digital archiving and preservation. The toolkit provides straightforward guidelines and step-by-step instructions as well as links to further information and guidance.
Culturenet Cymru and CyMAL staff will be on hand at the events to discuss any questions and provide practical advice on the various elements of digitisation, from where to get funding to displaying your content on the Web and all the bits in-between!
Location of Event: Y Galeri Caernarfon
Date of Event: 02/03/2010
Location of Event: Powys College Llandrindod Wells
Date of Event: 03/03/2010
Location of Event: Dylan Thomas Centre Swansea
Date of Event: 04/03/2010
Cofion Cynnes / Kind Regards
Sue Swanson
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Hyfforddiant
Collections, Standards and Training Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Welsh Assembly Government
Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
Llinell union / Direct line 0300 0622107
Ffacs / Fax 0300 0622052
e-bost / e-mail [log in to unmask]