Print

Print


Does Wales need a National Science Museum? / Oes angen Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol ar Gymru

Neges ddwyieithog yw hon / This is a bilingual message
Gweler isod ar gyfer y fersiwn Cymraeg / Please see below for Welsh version


Does Wales need a National Science Museum?

National Museum Cardiff hosts a one day conference

to explore Wales’ scientific heritage

Many scientists feel there should be an institution dedicated to telling the history of science in Wales. Amgueddfa Cymru – National Museum Wales will open up the debate on whether Wales requires a National Science Museum at The Scientific Heritage of Wales: The Way Forward – a one day conference to be held at National Museum Cardiff on Thursday, 18 March 2010.

Speakers from across the UK will encourage delegates to consider what needs to be done to preserve and celebrate the country’s scientific, technological, engineering and mathematical legacy at the event (9am – 4pm) which is open to all.

The day will cover the contribution of Wales, its people and Amgueddfa Cymru to the development of science and technology; how Wales compares with other countries such as Scotland and the challenges of making the subject accessible for young people.

“Science plays an important part in helping us understand our country’s heritage,” said John Williams-Davies, Director of Collections and Research, Amgueddfa Cymru.

“By hosting the conference the Museum is giving those with an interest in the topic and the history of our country, an opportunity to discuss how Wales’ contribution to the development of science can be presented.

“Stories such as that of Robert Recorde from Tenby - the inventor of the equals sign and the ‘father of British mathematics’, the development of the world research centre for NanoHealth at Swansea University, and the building of the first ever major iron suspension bridge which carries the A5 across the Menai Straits deserve to be shared with the people of Wales and beyond. The question we’ll be asking is - how should this be done?”

Chaired by Professor Robin Williams FRS, The Scientific Heritage of Wales: The Way Forward will open with Professor John Tucker from the School of Physical Sciences at Swansea University who will give an overview on the scientific heritage of Wales followed by a look at science at Amgueddfa Cymru with Dr Eurwyn Wiliam, Keeper Emeritus, Amgueddfa Cymru.

Dr Jeff Hughes, Senior Lecturer at the Centre for the History of Science, Technology & Medicine, University of Manchester will provide an overview of contemporary trends in the subject and Dr Adam Mosley, Senior Lecturer: Department of History & Classics, Swansea University’s talk will examine the history of collecting scientific material.

Dr Alison Morrison-Low, Principal Curator of Science, National Museums Scotland will share the Scottish experience in this field before the conference concludes with a facilitated discussion on the way forward in Wales

Those interested in contributing to the debate on what should be collected or would like to be involved in developing ideas for a National Science Museum in Wales, should visit our website www.museumwales.ac.uk to download a booking form or phone the events office on 029 2057 3148/029 2057 3325 to reserve a place. The conference fee is £10 and deadline for bookings is Friday, 19 February 2010.

Admission to National Museum Cardiff is free thanks to the support of the Welsh Assembly Government. 

Amgueddfa Cymru operates seven national museums across Wales. These are National Museum Cardiff, St Fagans: National History Museum, National Roman Legion Museum, Caerleon, Big Pit: National Coal Museum, Blaenafon, National Wool Museum, Dre-fach Felindre, National Slate Museum, Llanberis and the National Waterfront Museum, Swansea.

For further information, images or interview opportunities, please contact Catrin Mears, Communications Officer on (029) 2057 3185 / 07920 027067 or email [log in to unmask].



Oes angen Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol ar Gymru?

Cynhadledd undydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i archwilio treftadaeth wyddonol Cymru

Mae nifer o wyddonwyr yn teimlo bod angen creu sefydliad arbennig i adrodd hanes gwyddoniaeth yng Nghymru. Bydd Amgueddfa Cymru yn cychwyn y drafodaeth ynglŷn â’r angen am greu Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol yn Treftadaeth Wyddonol Cymru: Y Ffordd Ymlaen, sef cynhadledd undydd a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Iau, 18 Mawrth 2010.

Bydd siaradwyr o bob cwr o’r DU yn annog cynrychiolwyr i ystyried beth sydd angen ei wneud i ddiogelu a dathlu ein hetifeddiaeth wyddonol, dechnegol, beirianegol a mathemategol yn y gynhadledd (9 am - 4 pm) sy’n agored i bawb.

Bydd y diwrnod yn ystyried cyfraniad Cymru, ei phobl ac Amgueddfa Cymru i ddatblygiad gwyddoniaeth a thechnoleg; sut mae Cymru’n cymharu â gwledydd eraill fel yr Alban; a’r her o wneud y pwnc yn hygyrch i bobl ifanc.

“Mae gwyddoniaeth yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddeall treftadaeth ein gwlad,” dywedodd John Williams-Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru.

“Wrth gynnal y gynhadledd mae’r Amgueddfa’n rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb yn y pwnc a hanes ein gwlad i drafod sut y gellir cyflwyno cyfraniad Cymru i ddatblygiad gwyddoniaeth. 

“Mae straeon fel un Robert Recorde o Ddinbych-y-pysgod - dyfeisiwr y symbol hafal a ‘thad mathemateg Brydeinig,’ datblygiad canolfan ymchwil y byd ar gyfer Iechyd Nano ym Mhrifysgol Abertawe, ac adeiladu’r bont grog haearn gyntaf erioed sy’n cario’r A5 ar draws Afon Menai, yn haeddu cael eu rhannu gyda phobl Cymru a thu hwnt. Y cwestiwn fyddwn ni’n ei ofyn yw - sut y dylid gwneud hyn?”

Bydd Treftadaeth Wyddonol Cymru: Y Ffordd Ymlaen, yn cael ei gadeirio gan yr Athro Robin Williams FRS, ac yn agor gyda throsolwg yr Athro John Tucker o Ysgol Wyddoniaeth Ymarferol Prifysgol Abertawe o dreftadaeth wyddonol Cymru. Yna,  cawn gipolwg ar wyddoniaeth yn Amgueddfa Cymru gan Dr Eurwyn Wiliam, Ceidwad Emeritws, Amgueddfa Cymru.

Bydd Dr Jeff Hughes, Uwch Ddarlithydd yng Nghanolfan Hanes Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth Prifysgol Manceinion yn trafod tueddiadau cyfoes yn y pwnc, a bydd sgwrs Dr Adam Mosley, Uwch Ddarlithydd: Adran Hanes a Chlasuron Prifysgol Abertawe yn archwilio hanes casglu deunydd gwyddonol.

Bydd Dr Alison Morrison-Low, Prif Guradur Gwyddoniaeth, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, yn rhannu ei phrofiad fel Albanes yn y maes hwn cyn i’r gynhadledd gloi gyda thrafodaeth ar y ffordd ymlaen yng Nghymru.

Dylai unigolion sydd am gyfrannu at y drafodaeth ynglŷn â beth ddylid ei gasglu, neu sydd am fod yn rhan o ddatblygu syniadau ar gyfer Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol yng Nghymru, fynd i’n gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk i lawrlwytho ffurflen archebu neu ffonio’r swyddfa ddigwyddiadau ar 029 2057 3148/029 2057 3325 i archebu lle. Ffi’r gynhadledd yw £10, a’r dyddiad cau ar gyfer archebu lle yw dydd Gwener, 19 Chwefror 2010.

Mae mynediad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol:
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Amgueddfa Lechi Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Amgueddfa Wlân Cymru
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 20573185 / 07920 027067 neu [log in to unmask].


Gethin Evans
Access, Learning & ICT Assistant /  Cynorthwy-ydd Mynediad, Dysgu a TGCh
Welsh Assembly Government / Llywodraeth Cynulliad Cymru  
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales / Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd
 Welsh Assembly Government, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
fax: 0300 062 2052   ( 0300 062 2106  
:  [log in to unmask] 

Hapus i gyfathrebu'n Saesneg neu yn y Gymraeg/Happy to communicate in English or Welsh




The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet virus scanning service supplied by Cable&Wireless in partnership with MessageLabs. (CCTM Certificate Number 2006/04/0007.) On leaving the GSi this email was certified virus free.
Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.

Cafodd fersiwn gwreiddiol y neges e-bost hon ei sganio gan wasanaeth gwrthfeirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a ddarparwyd gan Cable&Wireless mewn partneriaeth â MessageLabs. (Rhif Tystysgrif CCTM 2006/04/0007). Wrth adael y GSI nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.
Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSI yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.