Erbyn meddwl, dw i'n credu bod 'manylach' yn gweithio'n iawn pan fydd rhywun yn sôn am y gwiriad/archwiliad safonol hefyd ond efallai ei fod braidd yn rhyfedd ar ei ben ei hun h.y. manylach na beth? (er mod i wedi'i ddefnyddio ers blynyddoedd). Bosib bod 'manwl' yn well heblaw ei fod efallai'n awgrymu nad yw'r llall yn fanwl o gwbl???


Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Linda Griffiths
Anfonwyd/Sent: 27 Ionawr 2010 15:54
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: enhanced CRB check

 

'Gwiriad manylach' dwi'n ei ddefnyddio.  Dyna sydd yn TermCymru ond statws 5 yn unig.

 

Linda

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, January 27, 2010 3:34 PM

Subject: enhanced CRB check

 

Ar ol tipyn o Wglo, gwelais nifer fawr o enghreifftiau o “gwiriad uwch y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)”.  Wedi imi roi’r gwaith i Bruce i’w brawf ddarllen heb so^n am hyn, ei awgrym oedd “gwiriad llwyrach ayb”.  Rhaid dweud bod hwnnw’n swnio’n gall, ond ni welaf yr un enghraifft.  Ydy “gwiriad uwch” wedi’i dderbyn yn swyddogol erbyn hyn?  Beth ydy barn pobl eraill?

Ann