Print

Print


Ia, rydach chi'n iawn, Ann.  Dwi ddim yn meddwl buaswn i'n ei
ddefnyddio fo heb i rywrai sy'n gwybod tipyn mwy na fi ddweud ei fod
o'n iawn.  Mae hi'n andros o anodd dod o hyd i derm addas weithiau.
Ond mae 'na bobl sy'n gweithio'n ddygn yn bathu termau - mae pethau'n
gwella o hyd.

Pob hwyl

Eluned

2010/1/16 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
> 'Dw i ddim yn meddwl y gellir dweud  "gelwir hyn yn 'X'" os mai chi sydd
> newydd ddyfeisio'r term (er fy mod i'n amau bod y wasg yn gwneud hyn yn aml
> - "X who people are calling the new Y").  Byddai'n rhaid dweud rhywbeth fel
> "Yn Saesneg, gelwir hyn yn 'kindling effect' (eich term newydd chi mewn
> cromfachau)."
>
> Ann
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
> Sent: 16 January 2010 14:02
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: kindling effect
>
> Rhyw daflu i'r pair ydw i yma: fel enw a fuasa "enynoldeb" yn
> gweithio? - "Gelwir hyn yn 'enynoldeb'".  Roeddwn am ddweud 'effaith
> enynnol' i ddechrau ond wedi meddwl, mi fuasai'n iawn petai'r frawddeg
> yn mynd: "This has a kindling effect" - "Mae hyn yn creu effaith
> enynnol".  Ond gan fod angen enw, hwn ddaeth i'm meddwl. Mae gen i ryw
> deimlad 'mod i'n malu awyr ond dwi am ei anfon beth bynnag, rhag ofn
> iddo sbarduno neu "ennyn" syniad callach yn rhywun arall.
>
> Eluned
>
> 2010/1/13 Roberts, Nia <[log in to unmask]>:
>> Roedd y ddihareb honno wedi dod i’m meddwl i! Yn betrus, beth am y gair
>> ‘ennyn’?
>>
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Megan Tomos
>> Sent: 13 January 2010 16:08
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: kindling effect
>>
>>
>>
>> Mae'n swnio fel petai'n awgrymu mai "hawdd" neu hyd yn oed "haws cynnau
> tân
>> ar hen aelwyd" a defnyddio dihareb sy'n perthyn i fyd arall.
>>
>> Megan
>>
>>
>> ________________________________
>>
>> Date: Wed, 13 Jan 2010 09:58:25 -0500
>> From: [log in to unmask]
>> Subject: Re: kindling effect
>> To: [log in to unmask]
>>
>>
>> Er nad wyf yn deall fawr ddim amdano, credaf bod y wefan yma'n  dangos yn
>> well na dim y math o beth ydi o - yn fwy na'r diffiniad a roddwyd
>>
>>
>>
>> http://bipolar.about.com/cs/brainchemistry/a/0009_kindling1.htm
>>
>>
>>
>> Alwyn
>>
>>
>>
>> ________________________________
>>
>> Got a cool Hotmail story? Tell us now
>>
>> ******************************************************************
>>
>> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and
> intended
>> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
>> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
>> on the following address:
>>
>> [log in to unmask]
>>
>>
>>
>> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
>> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
>> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
>> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
>>
>> [log in to unmask]
>>
>> *******************************************************************
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 9.0.725 / Virus Database: 270.14.145/2626 - Release Date: 01/16/10
> 07:35:00
>