Newydd ddarllen gweddill y neges. Sai'n galw pobl yn "jiwcs". Wi'n dweud e pan ma' rhywun yn dweud rhywbeth wrtha i wi heb sylweddoli. "Jiwcs, ti'n iawn 'fyd!".
Oes rhywun yn Sir Aberteifi/Sir Benfro yn gyfarwydd â'r term
yma? Hyd y gwela'i, mae'n cael ei ddefnyddio'n ddifrïol i sôn am bobl anwybodus
ond eisiau gwybod ydw i ai cyfeirio at bobl o ardal arbennig y mae'r term ynteu
a yw'n golygu rhywbeth fel 'ffyliaid'?
Dyma'r cyd-destun: rhywun yn cwerthin am ben cyryglwr yn
mynd â chwrwgl allan ar y môr, a'r cyryglwr yn ateb, 'Wel, ie, Jiwcs y'n nhw
fan'na'