Mae'n bosib mynd yn obsesiynol am gysondeb - does neb yn gwneud cymaint o stwr am amrywiadau yn y Saesneg. Dwi ddim yn meddwl bod darllen "dweud bod" a "dweud fod" yn yr un ddogfen yn mynd i beri neb golli cwsg na chamddeall yr awdur.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, December 08, 2009 3:28 PM
Subject: ATB: ATB: ATB: treiglo 'bod'

Nid un pwynt oedd dan sylw, ond sawl tudalen o gynghorion pwrpasol ar gysoni arddull wrth baratoi i sefydlu cyhoeddiad newydd.

 

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 08 Rhagfyr 2009 14:25
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: ATB: treiglo 'bod'

 

O ran diddordeb, beth oedd y pwynt gramadegol dan sylw? (Er mwyn osgoi cyflawni gwallau yn y dyfodol).

 

Tim

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of David Bullock
Sent: 08 December 2009 14:19
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB: ATB: treiglo 'bod'

Dwy ddim yn credu y byddai’r fenter yn llwyddo, a’r rheswm mod i mor besimistaidd yw hyn: fyddech chi ddim yn perswadio digon o’r ysgrifenwyr anwybodus i dderbyn eu bod yn anwybodus.

 

Un o’r profiadau gwaetha ges i erioed mewn swydd gyflogedig oedd bod mewn cyfarfod rhwng criw o gyfieithwyr a gramadegydd blaenllaw, y byddech chi i gyd yn gyfarwydd â’i enw ac yn meddwl amdano fel awdurdod, a gweld ei gynghorion yn cael eu gwrthod.

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
Anfonwyd/Sent: 08 Rhagfyr 2009 13:45
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: ATB: treiglo 'bod'

 

Syniad da!

Byddai'n dda gwahodd pobl eraill sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yno hefyd - newyddiadurwyr a golygyddion y wasg a'r cyfryngau eraill, pobl cysylltiadau cyhoeddus ac ati. Pawb sy'n sgrifennu Cymraeg neu'n defnyddio Cymraeg llafar safonol.

 

Siân

 

 

 

On 8 Rhag 2009, at 13:22, Megan Tomos wrote:

 

Cysondeb o fewn dogfen sy'n bwysig.  Ond fel rwyt ti'n deud Carolyn gall hynny fod  yn anodd wrth ddyfynnu a defnyddio termau a fathwyd hwnt ac yma.
 
Dwi'n cofio gwrando ar Thomas Parry ac academydd arall yn dadlau am hanner awr ar ddiwedd Cynhadledd gan yr Academi am bod a fod a chytuno i anghytuno wnaethon nhw!  Mae'n debyg mai anghytundeb o'r fath mewn rhyw bwyllgor termau a arweiniodd at y ffurf Swyddfa'r Post.  Roedd y gramadegwr o'r De yn pledio  Swyddfa Post (defnyddio Post yn enidol) a'r gramadegwr o'r Gogledd yn pledio Swyddfa Bost (y post yn ansoddeiriol) y cyfaddawd swyddogol a gafwyd oedd Swyddfa'r Post.
 
Efallai ei bod yn bryd trefnu Gweithdy Gramadeg i drafod pethau fel hyn ac i'w trafod gyda'r gramadegwyr sy'n gosod y safonau.  Gan fod cymaint o ddarllen ar gyfieithiadau (gobeithio!!)  mae'n bwysig eu bod yn ymwybodol o'r problemau sy'n wynebyu cyfieithwyr.  Byddai'n dda inni i gyd gael gloywi ein gramadeg!!
 
Megan 
 


Date: Mon, 7 Dec 2009 16:20:52 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB: treiglo 'bod'
To: [log in to unmask]

Bosib iawn - fel mae pobl eraill wedi dweud - dw i'n meddwl bod y naill neu'r llall yn dderbyniol - ond mae'n gallu edrych yn ofnadwy o anghyson os yw pawb yn gwneud rhywbeth gwahanol. Mae hyn yn codi'n amlach yn ddiweddar (nid y treiglad yma'n benodol ond cysondeb) oherwydd bod dyfyniadau o strategaethau/mesurau neu deitlau swyddogol ac ati'n cael eu defnyddio mewn dogfennau. Un o'r problemau mwyaf ydy treiglo berfenw neu beidio ar ôl enw benywaidd - e.e. strategaeth gwella/wella ac ati. Mae'r un peth yn wir am dreiglo enwau ar ôl enwau benywaidd e.e. Strategaeth dai/tai. Mae ambell ddogfen sy'n llawn dyfyniadau'n edrych yn ofnadwy o flêr am fod rhai pobl yn treiglo ac eraill ddim. - Does mond angen edrych dan 'strategy' yn 'Term Cymru' i weld y broblem ac nid bai Term Cymru yw hyn achos mae'r teitlau hyn wedi'u bathu gan wahanol gyfieithwyr ac yn aml yn deitlau swyddogol ar ddogfennau. Y broblem yw pan fydd rhywun eisiau sôn am Strategaeth Gofalwyr a Strategaeth Laeth yn yr un paragraff!

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Jones
Anfonwyd/Sent: 07 Rhagfyr 2009 16:10
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: treiglo 'bod'

 

Helo Carolyn

'Enw' + 'bod' = 'fod'? 

Mae gwaelod t.403 yn y Golygiadur yn sôn am 'fannau eraill lle ceir trafferthion gyda threiglo bod'.

Hwyl

Rhian

 


View your other email accounts from your Hotmail inbox. Add them now.

 

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.426 / Virus Database: 270.14.96/2549 - Release Date: 12/07/09 19:34:00

 

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad

 

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.426 / Virus Database: 270.14.96/2549 - Release Date: 12/07/09 19:34:00