Print

Print


Dwy ddim yn credu y byddai’r fenter yn llwyddo, a’r rheswm mod i mor
besimistaidd yw hyn: fyddech chi ddim yn perswadio digon o’r ysgrifenwyr
anwybodus i dderbyn eu bod yn anwybodus. 

 

Un o’r profiadau gwaetha ges i erioed mewn swydd gyflogedig oedd bod mewn
cyfarfod rhwng criw o gyfieithwyr a gramadegydd blaenllaw, y byddech chi i
gyd yn gyfarwydd â’i enw ac yn meddwl amdano fel awdurdod, a gweld ei
gynghorion yn cael eu gwrthod.

 

 

  _____  

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
Anfonwyd/Sent: 08 Rhagfyr 2009 13:45
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: ATB: treiglo 'bod'

 

Syniad da!

Byddai'n dda gwahodd pobl eraill sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yno
hefyd - newyddiadurwyr a golygyddion y wasg a'r cyfryngau eraill, pobl
cysylltiadau cyhoeddus ac ati. Pawb sy'n sgrifennu Cymraeg neu'n defnyddio
Cymraeg llafar safonol.

 

Siân

 

 

 

On 8 Rhag 2009, at 13:22, Megan Tomos wrote:





Cysondeb o fewn dogfen sy'n bwysig.  Ond fel rwyt ti'n deud Carolyn gall
hynny fod  yn anodd wrth ddyfynnu a defnyddio termau a fathwyd hwnt ac yma.
 
Dwi'n cofio gwrando ar Thomas Parry ac academydd arall yn dadlau am hanner
awr ar ddiwedd Cynhadledd gan yr Academi am bod a fod a chytuno i anghytuno
wnaethon nhw!  Mae'n debyg mai anghytundeb o'r fath mewn rhyw bwyllgor
termau a arweiniodd at y ffurf Swyddfa'r Post.  Roedd y gramadegwr o'r De yn
pledio  Swyddfa Post (defnyddio Post yn enidol) a'r gramadegwr o'r Gogledd
yn pledio Swyddfa Bost (y post yn ansoddeiriol) y cyfaddawd swyddogol a
gafwyd oedd Swyddfa'r Post.
 
Efallai ei bod yn bryd trefnu Gweithdy Gramadeg i drafod pethau fel hyn ac
i'w trafod gyda'r gramadegwyr sy'n gosod y safonau.  Gan fod cymaint o
ddarllen ar gyfieithiadau (gobeithio!!)  mae'n bwysig eu bod yn ymwybodol
o'r problemau sy'n wynebyu cyfieithwyr.  Byddai'n dda inni i gyd gael gloywi
ein gramadeg!!
 
Megan 
 

  _____  

Date: Mon, 7 Dec 2009 16:20:52 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB: treiglo 'bod'
To: [log in to unmask]

Bosib iawn - fel mae pobl eraill wedi dweud - dw i'n meddwl bod y naill
neu'r llall yn dderbyniol - ond mae'n gallu edrych yn ofnadwy o anghyson os
yw pawb yn gwneud rhywbeth gwahanol. Mae hyn yn codi'n amlach yn ddiweddar
(nid y treiglad yma'n benodol ond cysondeb) oherwydd bod dyfyniadau o
strategaethau/mesurau neu deitlau swyddogol ac ati'n cael eu defnyddio mewn
dogfennau. Un o'r problemau mwyaf ydy treiglo berfenw neu beidio ar ôl enw
benywaidd - e.e. strategaeth gwella/wella ac ati. Mae'r un peth yn wir am
dreiglo enwau ar ôl enwau benywaidd e.e. Strategaeth dai/tai. Mae ambell
ddogfen sy'n llawn dyfyniadau'n edrych yn ofnadwy o flêr am fod rhai pobl yn
treiglo ac eraill ddim. - Does mond angen edrych dan 'strategy' yn 'Term
Cymru' i weld y broblem ac nid bai Term Cymru yw hyn achos mae'r teitlau hyn
wedi'u bathu gan wahanol gyfieithwyr ac yn aml yn deitlau swyddogol ar
ddogfennau. Y broblem yw pan fydd rhywun eisiau sôn am Strategaeth Gofalwyr
a Strategaeth Laeth yn yr un paragraff!

Carolyn

 

  _____  

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Jones
Anfonwyd/Sent: 07 Rhagfyr 2009 16:10
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: treiglo 'bod'

 

Helo Carolyn

'Enw' + 'bod' = 'fod'? 

Mae gwaelod t.403 yn y Golygiadur yn sôn am 'fannau eraill lle ceir
trafferthion gyda threiglo bod'.

Hwyl

Rhian

 

  _____  

View your other email accounts from your Hotmail inbox. Add them
<http://clk.atdmt.com/UKM/go/186394592/direct/01/>  now.

 

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.426 / Virus Database: 270.14.96/2549 - Release Date: 12/07/09
19:34:00