Difyr Rhian achos dw inna'n neud run fath ond bob tro'n cael trafferth efo 'Mae'r ffaith fod' ac yn gorfod ei newid yn 'bod' er cysondeb. Sgwn i pam? Carolyn _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Jones Anfonwyd/Sent: 07 Rhagfyr 2009 11:02 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: treiglo 'bod' Dw i'n licio'r blog Siân a dw i'n ffan o Hafina Clwyd! Dydi 'bod'/'fod' ddim yn un o'r prif bethe sy'n fy mhoeni i - efallai fod, gweld bod a gwelaf fod ... am mod i wedi cael fy nysgu i wneud hynny, ac am mod i'n hoffi cael cysondeb (... ac am mod i'n hen gingron bach ffyslyd!). Ar ôl dweud hynny, dw i newydd ddarllen brawddeg yn fy ngwaith yn dechrau efo 'Mae'r ffaith fod ...' Hwyl Rhian