Gwelaf nifer fawr o gynigion ar Google:
papur/deunydd lapio swigod (sy’n creu lluniau doniol
yn y meddwl)
paciau swigod
papur swigod
swigod lapio – efallai …
‘Rwyf newydd ofyn i Bruce, sy’n awgrymu “lapiad
swigog” o “lapiad [chwy]sigog”, ond o edrych yn GPC “chwysigennog”
sydd yno, nid “chwysigog”. “Lapiad pothellog”
efallai? A arferir unrhyw derm eto?
Gyda llaw “some websites
provide a "virtual bubble wrap" program which displays a sheet of
bubble wrap that users may "pop" by clicking on the bubbles.” –
trist, ‘ta be’?
Ann