Diolch yn fawr am yr holl fanylion!
David
Oddi wrth/From:
Anfonwyd/Sent: 18 Rhagfyr 2009
23:57
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Howe Mill, Bro
Morgannwg
Does dim son am Howe Mill yn Nhrysorau
Bro Morgannwg, ond mae'n debyg ei fod yn agos at Eglwys Santes Fair, y plwy
islaw plwy St Hilary lle mae'r mast teledu, ger y Bontfaen.
Oherwydd mai Eglwys Fair neu Mary
Church yw enw'r plwy hefyd (mae Mary Hill hefyd yr ochr arall i'r
Bontfaen), mae bron yn sicr mai eglwys Normanaidd oedd hi o tua'r 13eg ganrif,
er bod y ffaith bod y fynwent yn grwn yn awgrymu ei bod ar safle eglwys
gynharach neu safle cyn-gristnogol. Mae nifer helaeth o'r seintiau Cymreig
( Dochwy ac yn y blaen) yn cael eu coffau mewn eglwysi cyfagos, ond mae'n
weddol bendant mai cymuned Eingl -Normanaidd oedd hon. O ystyried hefyd
bod teulu o Howes yn trigo yn y plwy tua 1600 - hwythau'n flaenoriaid yn y
capel Wesleaidd yn y plwy - byddwn i'n ddigon sicr mai Melin Howe
fyddai'r unig enw priodol... OS am gyfieithu o gwbl!
Alwyn