Gwelaf nifer fawr o gynigion ar Google: papur/deunydd lapio swigod (sy'n creu lluniau doniol yn y meddwl) paciau swigod papur swigod swigod lapio - efallai . 'Rwyf newydd ofyn i Bruce, sy'n awgrymu "lapiad swigog" o "lapiad [chwy]sigog", ond o edrych yn GPC "chwysigennog" sydd yno, nid "chwysigog". "Lapiad pothellog" efallai? A arferir unrhyw derm eto? Gyda llaw "some websites provide a "virtual bubble wrap" program which displays a sheet of bubble wrap that users may "pop" by clicking on the bubbles." - trist, 'ta be'? Ann