Diolch yn fawr am yr holl fanylion! David _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alwyn Evans Anfonwyd/Sent: 18 Rhagfyr 2009 23:57 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Howe Mill, Bro Morgannwg Does dim son am Howe Mill yn Nhrysorau Bro Morgannwg, ond mae'n debyg ei fod yn agos at Eglwys Santes Fair, y plwy islaw plwy St Hilary lle mae'r mast teledu, ger y Bontfaen. Oherwydd mai Eglwys Fair neu Mary Church yw enw'r plwy hefyd (mae Mary Hill hefyd yr ochr arall i'r Bontfaen), mae bron yn sicr mai eglwys Normanaidd oedd hi o tua'r 13eg ganrif, er bod y ffaith bod y fynwent yn grwn yn awgrymu ei bod ar safle eglwys gynharach neu safle cyn-gristnogol. Mae nifer helaeth o'r seintiau Cymreig ( Dochwy ac yn y blaen) yn cael eu coffau mewn eglwysi cyfagos, ond mae'n weddol bendant mai cymuned Eingl -Normanaidd oedd hon. O ystyried hefyd bod teulu o Howes yn trigo yn y plwy tua 1600 - hwythau'n flaenoriaid yn y capel Wesleaidd yn y plwy - byddwn i'n ddigon sicr mai Melin Howe fyddai'r unig enw priodol... OS am gyfieithu o gwbl! Alwyn