Print

Print


Does dim son am Howe Mill yn Nhrysorau Bro Morgannwg, ond mae'n debyg ei  
fod yn agos at Eglwys Santes Fair, y plwy islaw plwy St Hilary lle mae'r mast 
 teledu, ger y Bontfaen. 
 
Oherwydd mai Eglwys Fair neu Mary Church yw enw'r plwy hefyd  (mae Mary 
Hill hefyd yr ochr arall i'r Bontfaen), mae bron yn sicr mai  eglwys Normanaidd 
oedd hi o tua'r 13eg ganrif, er bod y ffaith bod y fynwent yn  grwn yn 
awgrymu ei bod ar safle eglwys gynharach neu safle cyn-gristnogol. Mae  nifer 
helaeth o'r seintiau Cymreig ( Dochwy ac yn y blaen) yn cael eu  coffau mewn 
eglwysi cyfagos, ond mae'n weddol bendant mai cymuned Eingl  -Normanaidd oedd 
hon. O ystyried hefyd bod teulu o Howes yn trigo yn y  plwy tua 1600 - 
hwythau'n flaenoriaid yn y capel Wesleaidd yn y plwy -   byddwn i'n ddigon sicr 
mai Melin Howe  fyddai'r unig enw priodol...  OS am gyfieithu o gwbl! 
 
Alwyn