Print

Print


CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru

Gwasanaeth Gwybodaeth Amgueddfeydd - Bwletin 88

Mae gwybodaeth am y gwasanaeth gwybodaeth Amgueddfeydd ar gael ar dudalennau CyMAL ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
http://www.cymru.gov.uk/cymal

Os mae eitem yn ymddangos yn Saesneg yn unig yn y bwletin hwn, doedd dim fersiwn Cymraeg o'r eitem ar gael pan cafodd y bwletin ei baratoi.

Nadolig llawen iawn i chi o bawb o CyMAL


LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU - CYMAL

Grantiau 2010/11
Mae cynllun grantiau 2010/11 yn agored i geisiadau. Mae gwybodaeth am y grantiau a'r ffurflen gais ar gael i'w llawrlwytho ar ein wefan. Y dyddiad cau yw 25 Ionawr.
http://www.cymru.gov.uk/cymal

Sioe Deithiol Cadwedigaeth Ddigidol yng Nghymru - Aberystwyth, 22.01.10 & Caerdydd, 15.02.10
Cynhelir cyfres o sioeau teithiol ledled y DU ac Iwerddon i godi ymwybyddiaeth am offer a thechnegau cadwedigaeth ddigidol. Fel rhan o'r gyfres hon, cynhelir dwy sioe deithiol yng Nghymru gan y Gymdeithas Archifwyr Genedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a CyMAL: Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cymru, mewn partneriaeth â'r Archifau Cenedlaethol, y Cynghrair Cadwedigaeth Ddigidol a'r prosiect Planedau.

Cynhelir un o'r sioeau teithiol yn Aberystwyth ar 22 Ionawr 2010 ac un yng Nghaerdydd ar 15 Chwefror. Er bod ffocws y ddwy sioe ychydig yn wahanol, nod y ddau ddigwyddiad yw codi ymwybyddiaeth o'r materion a dangos sut i gymryd y camau cynyddol cyntaf yn y maes. Maent wedi'u hanelu at y rhai sy'n gwybod bod angen iddynt ddeall mwy am gofnodion digidol a'r rhai sy'n dechrau ystyried sut i ddatblygu polisïau ac offer i reoli'r gwaith o drosglwyddo neu adneuo cofnodion digidol.

Ni fydd angen talu i fynychu'r sioeau teithiol, ond nifer cyfyngedig fydd yn gallu bod yn bresennol. I gael manylion llawn y rhaglenni a gwybodaeth am sut i gadw'ch lle  ewch i wefan Cymal


CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Cofrestrwch i fod yn gynghorydd arbenigol allanol 
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig cyfle i arbenigwyr ac ymchwilwyr gyflwyno'u henwau i gael eu hystyried ar gyfer contractau ymchwil tymor byr posibl yn y dyfodol. 

Pwyllgorau'r Cynulliad sy'n ysgwyddo'r baich mwyaf am y cyfrifoldeb o graffu ar bolisïau, gwariant, gweinyddu a deddfwriaeth y llywodraeth. O ganlyniad, maent yn dibynnu ar gymorth arbenigol am wybodaeth ac ymchwil ar faterion penodol. Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn gyfrifol am ddarparu cymorth a chyngor mewnol uniongyrchol i holl Aelodau a phwyllgorau'r Cynulliad ar amrywiaeth eang o bynciau. Pan fo'n briodol, gall y pwyllgorau benodi cynghorwyr yn unol â chanllawiau a gyhoeddir gan y Comisiwn ynghylch darparu cyngor arbenigol ychwanegol.

Efallai y bydd angen arbenigedd ym maes iechyd, addysg, busnes, yr amgylchedd, diwylliant ac amrywiaeth o arbenigeddau eraill. Os yw unrhyw bwnc yn dod o fewn cylch gwaith Llywodraeth y Cynulliad, efallai y bydd cyfle i sicrhau contract yn y maes hwnnw yn y dyfodol.
http://tinyurl.com/yaholn2


CYNGOR AMGUEDDFEYDD, LLYFRGELLOEDD AC ARCHIFAU

A stitch in time to save painting of Welsh knitters
Culture Minister, Margaret Hodge, has placed a temporary export bar on a painting by William Dyce, Welsh landscape with two women knitting. This will provide a last chance to raise the money to keep this important painting in the United Kingdom. The minister's ruling follows a recommendation by the Reviewing Committee on the Export of Works of Art and Objects of Cultural Interest, administered by the MLA. 

The Committee recommended that the export decision be deferred on the grounds that the painting is closely connected with UK history and national life, that it is of outstanding aesthetic importance, and that it is significant for the study of Pre-Raphaelite landscape painting and of the representation of Welsh landscape and culture in the nineteenth century. The Committee awarded a starred rating to the painting meaning that every possible effort should be made to raise enough money to keep it in the country.
http://www.mla.gov.uk/news_and_views/press/releases/2009/welsh_knitters


CYMDEITHAS YR AMGUEDDFEYDD

What are your feelings about disposal? 
Following the disposal seminar last month at the University College London, and two years on from the changes to the Code of Ethics, we want to know your views on disposal, and whether your views have changed.
http://www.museumsassociation.org/37924

Associateship of the Museums Association relaunches
The AMA was relaunched at the Museums Association's Annual Conference and Exhibition 2009 in London, with the new scheme reflecting the need for greater accessibility for candidates and closer ties to the workplace. Charlotte Holmes, the MA's museum development officer, said: "We made the changes in response to calls from candidates and employers, and the changes reflect the things that both those groups want and need. We hope that the changes regarding access to the AMA mean that it is now truly accessible to everyone working in museums. "
http://www.museumsassociation.org/about/ama-relaunches


LLYWODRAETH Y DU

New law gives those who acquire Treasure a duty to report it
The Coroners and Justice Act received Royal Assent on 12 November and introduces a package of reforms to the Treasure investigation system to help safeguard archaeological finds. As well as establishing a new Coroner for Treasure, the Act places a new duty on those who acquire objects which they believe to be Treasure to make a report to the Treasure Coroner within 14 days. Previously only those who found the Treasure have had a duty to report it. Closing this loophole will make a considerable difference to efforts to monitor sales of potential Treasure.  

The legislation also includes the presumption that, if there is no evidence to the contrary, a find will be assumed to have been discovered after September 1997 and to come from England and Wales, bringing it within the remit of the Treasure Act. Treasure is defined as gold and silver objects, groups of coins from the same finds which are over 300 years old, and prehistoric base-metal assemblages. (source: National Museums Directors Conference newsletter December 2009)
http://services.parliament.uk/bills/2008-09/coronersandjustice.html
http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2009/ukpga_20090025_en_3#pt1-ch4-l1g30


AMGUEDDFA CYMRU - NATIONAL MUSEUM WALES

Gwobr Addysg bwysig i Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis
Mae Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis wedi ennill Gwobr Sandford yn ddiweddar am addysg dreftadaeth. Dyma'r tro cyntaf i'r amgueddfa ennill y wobr hon am ansawdd uchel y ddarpariaeth addysg ar gyfer ysgolion lleol ac ysgolion sy'n ymweld, a chafodd adroddiad canmoliaethus gan y beirniaid a fu'n gwylio ymweliad gan blant ysgol yn gynharach eleni ac yn gwneud asesiad trylwyr yn seiliedig ar bolisïau, gweithdrefnau, adnoddau a gweithdai addysgol.  

Mae Gwobr Sandford yn ddilys am bum mlynedd, ac mae'n cael ei hystyried yn 'Asesiad Sicrwydd Ansawdd' gan feirniaid annibynnol o addysg dreftadaeth.  Rhoddir y Gwobrau'n flynyddol, ac maent yn cydnabod ansawdd a rhagoriaeth y gwasanaethau a chyfleusterau addysgol ar safle, gan gynnwys ymwybyddiaeth o'r cwricwlwm cenedlaethol a chydymffurfiad ag ef; cyfrannu at godi ymwybyddiaeth o'r dreftadaeth leol a chenedlaethol; tystiolaeth o berthynas dda â sefydliadau addysgol; pa mor dda y mae potensial addysgol y safle'n cael ei ddatblygu; darparu adnoddau addysgol perthnasol; a darparu cyfleusterau ychwanegol sy'n gwella ansawdd ymweliad y myfyrwyr.
http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/5/?article_id=573

Lansiad swyddogol pecyn offer cymunedol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau 
Cafodd pecyn offer treftadaeth gymunedol ei lansio'n swyddogol ddydd Sadwrn 28 Tachwedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Mae'r pecyn, a gynhyrchwyd gan Amgueddfa Cymru, yn ffrwyth prosiject amlweddog gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o'r enw Traed Mewn Cyffion - Cymru a Chaethwasiaeth. Mae'r prosiject hwn yn coffau deucanmlwyddiant y Ddeddf Diddymu Caethwasiaeth yn 2007.

Cynlluniwyd yr adnodd electronig hwn, sydd am ddim, i helpu pobl i ddeall y rhan a chwaraeodd Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth trawsiwerydd. Ei nod yw annog unigolion, grwpiau a sefydliadau i archwilio hanes y fasnach, yn cynnwys ei hetifeddiaeth fodern, trwy gasgliadau amgueddfeydd. Hefyd mae'n cynnig syniadau, gweithgareddau a gweithdai ar gyfer sefydlu projectau cymunedol sy'n mynd i'r afael â phynciau fel hanes pobl dduon a threftadaeth Gymreig.
http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/5/?article_id=570


HYFFORDDIANT A CHYNHADLEDDAU 

Social History Curators Group Conference - Birmingham, 8-10 July 2010
More for Less: big impacts with small resources 

Museum professionals are experts at utilising creativity, verve and imagination to overcome the potential limitations of small resources. At different times we are all likely to face the difficulties of shrinking budgets, limited funding options and overburdened resources. This year's conference tackles these problems head on, and shows you how you can rise to the challenge and provide high quality and engaging experiences for your visitors. Topics covered will include proven strategies from previous times of economic difficulty and recent case studies that have demonstrated innovation and inspiration despite various restrictions.

SHCG are pleased to invite proposals from across the museum profession, for presentations which address one or more of the core conference themes:

- Survival stories - how museums have coped with resource cuts and limitations
- Engaging and increasing your audiences without increasing your costs
- Creative ways of working with small budgets - examples relating to collections, interpretation, partnerships, learning and marketing
- Minimising the environmental cost - sustainability and recycling
- Developing partnerships with libraries, archives and children's centres
- Digital technologies - new solutions for age-old problems

Proposals for a 30 minute presentation should include a 200 word summary of the presentation, contact details and institutional affiliation (if any). Please email proposals for presentations to Hannah Crowdy, [log in to unmask], by 1st February 2010


CYLLID A GWOBRAU 

The Plowden Medal 2010
Nominations are now invited for the 2010 Plowden Medal. A selection board, drawn from the conservation community, the Royal Collection and the Royal Warrant Holders Association will consider nominations in March 2010. If you should wish to apply, nomination papers (the Calling Notice 2010 and Application Form 2010) can be downloaded from the links below or obtained from, The Secretary, The Royal Warrant Holders Association, No.1 Buckingham Place, London SW1E 6HR. The final date for the receipt of nominations is Friday 12 February 2010.
http://www.rwha.co.uk/the-association/plowden.html

Museums & Heritage Awards for Excellence
Celebrating best practice within museums, galleries and heritage visitor attractions, hundreds of entrants will once again battle it out to win one of these Eleven Prestigious Awards. Now in their eighth successful year the Museums & Heritage Awards for Excellence are once again getting set to recognise and celebrate best practice within museums, galleries and heritage visitor attractions across the UK. 

With eleven categories to choose from the Museums & Heritage Awards for Excellence offer everyone the opportunity to enter - no matter what your budgets are, how many visitors you attract or high profile the project. The deadline for entries is Friday 19 February 2010 and full information on how to enter can be downloaded here! 
http://www.museumsandheritage.com/awards

Old Possum's Practical Trust
Old Possum's Practical Trust makes a number of grants each year to further the aims of the Trust. Grants are more likely to be given for projects that involve:

- children or young people 
- disabled or disadvantaged people 
- communities 
 
and which fall within historic, artistic, architectural, aesthetic, literary, musical or theatrical criteria and which enhance the lives of others, rather than the well-being of the applicants themselves.
http://www.old-possums-practical-trust.org.uk/page.cfm?pageid=328

Cronfa Ardoll Agregau Cymru
Treth ar chwarelu agregau penodol, craig wedi'i malu, tywod a graean, yn fasnachol yw'r Ardoll Agregau. Yn 2002, penderfynodd y Llywodraeth y gellid defnyddio rhyw gymaint o'r arian a godir gan yr Ardoll Agregau i ariannu prosiectau sy'n lleihau effeithiau cynhyrchu agregau yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, neu sy'n lleihau'r angen am gloddio am agregau sylfaenol (chwarelu). Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael cyfran o'r arian hwn, sy'n £1.6 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd.

Mae Cronfa'r Ardoll Agregau yn cynorthwyo prosiectau sy'n lleihau effeithiau'r diwydiant agregau ar gymunedau yng Nghymru. Mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn gallu meithrin perthynas bendant rhwng eu prosiect a chloddio am agregau. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos effaith cloddio am agregau ar bobl leol a'u cymuned, ar yr amgylchedd neu ar yr economi, a sut y bydd eich prosiect yn lleihau'r effeithiau hyn.

Ymysg y blaenoriaethau sydd o ddiddordeb penodol i grwpiau gwirfoddol a chymunedol y mae: 

Categori 4 - Cymuned 
Categori 5 - Gwarchod a gwella safleoedd o ddiddordeb arbennig 
Categori 6 - Addysg

Anogir ymgeiswyr posib i gysylltu ag Uned y Gronfa i drafod a ydynt yn gymwys cyn ymgeisio. 

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor cysylltwch ag Uned ALFW: Uned ALFW, Cangen Polisi, Is-adran Cynllunio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. E-bostiwch [log in to unmask] neu ffonio 029 2082 3261 neu 029 2080 1492.


ELUSENNAU A GWIRFODDOLWYR

Helpu elusennau trwy'r Dirywiad Economaidd
Mae'r dirywiad yn yr economi yn her i elusennau gyda chynnydd yn nifer y bobl sydd angen eu gwasanaethau ond gostyngiad yn nifer o ffynonellau incwm elusennau. Fel y rheolydd elusennau yng Nghymru a Lloegr, rydym eisiau sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i helpu elusennau trwy'r hinsawdd gyfredol. Rydym wedi dwyn ynghyd ar y dudalen hon yr wybodaeth y mae ei hangen ar elusennau i ddeall, ymbaratoi ac ymateb i'r sefyllfa ariannol sy'n newid. Mae'r tudalennu hyn yn cael eu diweddaru'n gyson, felly edrychwch am wybodaeth ac adnoddau newydd, a newyddion yn ein hadran 'newyddion'
http://www.charitycommission.gov.uk/welsh/enhancingcharities/economic.asp?

Y dirywiad economaidd: 15 cwestiwn y mae angen i ymddiriedolwyr eu gofyn
Yn wyneb y dirwasgiad presennol, rydym wedi cynhyrchu gwybodaeth ymarferol, ar ffurf y rhestr gyfeirio hon, y gall ymddiriedolwyr ei defnyddio. Rydym wedi cynllunio'r rhestr gyfeirio i fod yn addas i bob elusen. Ni fydd pob un o'r 15 prif gwestiwn yn berthnasol i bob elusen - bydd yn dibynnu ar faint yr elusen a sut y mae'n gweithredu. Mae'r rhestr gyfeirio yn adlewyrchu'r arferion da y dylai elusennau eu dilyn wrth adolygu'n gyson y ffordd y maent yn gweithredu, ac mae'r dull hwn o weithredu yn arbennig o bwysig yn ystod dirywiad economaidd.
http://www.charitycommission.gov.uk/welsh/tcc/ccnews29check.asp?

Free procurement guide clarifies commissioning process
A guide to commissioning and procurement law for third sector organisations has been jointly published by the NCVO and Navca. Pathways through the Maze - a Guide to Procurement Law, written by Anthony Collins Solicitors, aims to help voluntary groups understand the legal and practical issues of public sector contracting. 

The guide is written specifically for people working for local charities, voluntary organisations, community groups or social enterprises. Smaller organisations that did not have legal teams may find the guide particularly useful.
http://www.ncvo-vol.org.uk/pathways 


CYHOEDDIADAU AC YMCHWIL

The Engaging Museum: Developing Museums for Visitor Involvement - Graham Black
This very practical book guides museums on how to create the highest quality experience possible for their visitors. Creating an environment that supports visitor engagement with collections means examining every stage of the visit, from the initial impetus to go to a particular institution, to front-of-house management, interpretive approach and qualitative analysis afterwards. This holistic approach will be immensely helpful to museums in meeting the needs and expectations of visitors and building their audience.
http://tinyurl.com/ybvr2rp


ADNODDAU

Lansio'r Porth Arfer da (Swyddfa Archwilio Cymru)
Ar 26 Tachwedd lansiodd Swyddfa Archwilio Cymru borth arfer da newydd ar-lein - mewn partneriaeth â saith sefydliad arall yn y sector cyhoeddus. Nod porth y we yw cynnig un pwynt mynediad i amrywiaeth eang o enghreifftiau o arfer da ac arfer nodedig ym mhob rhan o wasanaethau cyhoeddus Cymru, er mwyn helpu sefydliadau i ganfod pwy sy'n gwneud rhywbeth a allai eu helpu.
http://www.goodpracticewales.com

AHI conference papers - Making the Past work for the Future
Our conference in 2009 was held in south Wales, and run in partnership with Dehongli Cymru/Interpret Wales. The programme looked at the impact of interpretation in regenerating places and engaging communities in Wales and across the world. We're delighted to make papers from the conference available for download.
http://www.ahi.org.uk/www/news/view_detail/51/


NEWYDDION - CYMRU

Arrest after 50s car museum blaze  
A 46-year-old man has been arrested after a suspicious fire at a museum, which is believed to have destroyed a classic car collection. A 56-year-old man was taken to hospital by ambulance as a precaution following the fire at the Cae Dai Museum in Lawnt, Denbigh, Denbighshire. The blaze broke out just after 2300 GMT on Tuesday.  Cae Dai houses a collection of 1950s vehicles including a Cadillac and a lorry used in the Great Train Robbery. 
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8389995.stm

Disused Victorian station poised to become museum piece  
A Victorian railway station in Monmouthshire which has been closed for half a century is poised to become an exhibit at a Welsh museum. County councillors are keen to see the single platform Raglan station preserved for future generations. The station was on the Pontypool to Coleford railway line which opened in 1856. It finally closed 99 years later. 
The National History Museum at St Fagans near Cardiff says it would consider putting the station on show. 
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8400948.stm

£440,000 lottery grant for museum of Cardiff  
A museum to tell the history of Cardiff has been awarded an early Christmas gift - a £440,000 lottery grant. The Cardiff Story will be based around a core collection of 8,000 artefacts and expects to open at the city's old library in The Hayes in a year's time. The Heritage Lottery Fund (HLF) said the grant would help "bring Cardiff's historic past back to life". The exhibits, currently stored at the National Museum Cardiff, are expected to go on show in November 2010. 
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8408975.stm


NEWYDDION - DU
 
Football museum to go to Urbis
Trustees of the National Football Museum have agreed a controversial move from its home at Preston North End's Deepdale stadium to Urbis in Manchester. The decision comes despite opposition from staff and locals in Manchester and Preston. More than 900 people joined the Keep Our Urbis group on Facebook, while more than 3,500 signed a petition on the prime minister's website to keep the museum in Preston. Trustees said they had been forced to make the move because of a financial shortfall. Manchester City Council has promised £2m annually in revenue funding to the museum, and to underwrite capital costs that are expected to be up to £8m.
http://tinyurl.com/yb3uzw3 

Elizabeth Bennett & Carol Whittaker 

Gwasanaeth Gwybodaeth
Nid yw'r ffaith bod gwybodaeth trydydd parti wedi'i chynnwys yng Ngwasanaeth Gwybodaeth Amgueddfeydd CyMAL yn golygu bod CyMAL yn ei chymeradwyo. Nid yw CyMAL yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd digwyddiadau, cynhyrchion neu wasanaethau trydydd parti y sonnir amdanynt yn y Gwasanaeth hwn. Er ein bod wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir, nid yw CyMAL na'r golygydd yn atebol am unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad.

Os ydych yn gwybod am unrhyw un a hoffai gael ei ychwanegu i'r rhestr, neu hoffai gael copi caled o'r newyddion, neu os ydych heb fynediad i'r we ac am gopi caled cysylltwch â Carol Whittaker. Byddwch yn dal i dderbyn copi caled os ydych ar y rhestr ddosbarthu presennol.  

Bydd fersiwn Cymraeg a Saesneg o'r bwletin yn cael eu dosbarthu ar wahan yn dilyn sylwadau darllenwyr.


---
Elizabeth Bennett 

Swyddog Cyngor a Chefnogaeth - Advice and Support Officer 

CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales 
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Assembly Government 

Rhodfa Padarn, 
Aberystwyth, 
Ceredigion, 
SY23 3UR. 
 
Ffon/Tel: 0300 062 2101
Fax/Ffacs: 0300 062 2052 
e-bost/e-mail: [log in to unmask]