dwi'n piffian chwerthin yma'n meddwl am 'rywun' 'wedi llwydo' - ych a fi!! dim ond o dan y dywarchen ddyliwn - ond bod wyneba pobol yn medru bod yn llwyd (dyna faswn i'n ei ddeud bob gafael yn lle gwelw - ond wedyn fasa rhywun ddim yn deud bod rhywun wedi llwydo - o ran ei wyneb - mynd yn llwyd fasa hynny'n te). Dwi'n gwbod nad trio twyllo dan ni, ond o godi'r ymadrodd o gyd-destun gwahanol, Oh what a tangled web ... Annes 2009/11/9 Ann Corkett <[log in to unmask]> > Alla i ddim dweud dim ynghylch y mater ond yr hyn a glywais ac a ddysgais > gan Bruce (papur llwyd, siwgwr coch ayb.), ond peth arall ‘rwy’n ei gofio yw > iddo f’atal rhag dweud bod hwn a hwn wedi llwydo. Bara sy’n llwydo, meddai > fo, mae o wedi britho. > > Ann > > > > > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *annes gruffydd > *Sent:* 09 November 2009 13:45 > > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: ffydleman - brown envelope > > > > Siwgwr coch faswn i'n ei ddeud yn naturiol (Pen Llyn), ond papur brown. > Gwellt glas (ond dwi erioed wedi dallt pam bod gwellt yn las a dail coed yn > wyrdd a nhwtha'r un lliw mwy ne lai, a byd o wahaniaeth rhwng gwellt 'glas' > ac awyr 'las'. Dwi'n cofio Kate Roberts yn deud wrtha i flynyddoedd lawer yn > ol mod i 'wedi mynd yn felyn' - lliw haul oedd arna i - fedrai o ddim bod yn > 'llwyd' wrth gwrs - rhywbeth gwahanol wedyn fasa hynny - dwi'n meddwl bod > angen y gair 'brown' yn Gymraeg - gan mai dim ond gyfer ceffyl y mae gwinau > yn gwneud y tro. > > > > Annes > > 2009/11/9 Rhys Osian (AcadReg) <[log in to unmask]> > > Pwynt diddorol arall Ann. > > O ystyried mai'r unig le y clywais i hyn o'r blaen oedd pan ddwedodd fy > Nain wrtha i mai 'papur llwyd' a 'siwgwr coch' oedden nhw'n ei ddweud > "adre'n blant" (hynny yw yn sir Feirionnydd y tridegau), mae'n amheus gen i > mai dyna rown i, fy hunan, mewn cyfieithiad y dyddiau hyn... > > Ydw i'n methu? Ydy pobl yn dal i ddweud hynny? I fi mae 'glas' yn gallu > golygu green, ond brown oedd papur a siwgwr yn tŷ ni, ac yn yr ysgol byddai > unrhyw beth heblaw green=gwyrdd, blue=glas, brown=brown, red=coch, > grey=llwyd, yn chwerthinllyd! > > Os ydyn ni am i bobl arfer papur llwyd a siwgr coch (a hyd yn oed porfa > las), mae angen i athrawon ysgol gynradd gael gwybod dw i'n meddwl! > > Osian > > > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett > Sent: 09 November 2009 11:24 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: ffydleman - brown envelope > > Cywiriad. Bum yn meddwl yn Saesneg, mae'n rhaid. "Amlen lwyd" dylwn fod > wedi'i ddweud, nid "amlen frown"! > Ann > > >