Print

Print


Beth am gael golwg ar bolisi Cyngor Gwynedd ar y mater hwn?  Dylai'r ddogfen honno ymdrin yn briodol â'r maes gan ddefnyddio termau yn fanwl gywir yn y ddwy iaith.

 

Megan

 


 
> Date: Tue, 3 Nov 2009 11:56:53 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio
> To: [log in to unmask]
> 
> Ond ni dyna fy mhroblem! 'Rwy'n cyfieithu O Gymraeg digon gwallus, ac mae 
> arnaf eisiau gwybod beth yw enwau Saesneg cywir y tri cham y mae'r awdur 
> gwreiddiol yn cyfeirio atynt fel "eithrio dros dro", "eithrio" ac "eithrio ffurfiol". 
> Ydw i'n iawn mai "exclusion/suspension/expulsion (sy'n swnio braidd yn hen 
> ffasiwn i mi)" sy'n iawn, ynteu ydy'r ddau gyntaf yn iawn, a chynnig Tim yn 
> iawn ar gyfer yr olaf.
> 
> Gyda llaw, alla i ddim edrych ar gynnig Tim yr eiliad yma rhag ofn imi golli'r 
> neges hon yng nghanol ei sgwennu. Er gwaethaf newid f'aelodaeth o W-T-C i 
> gyfeiriad e-bost arall, 'rwy'n dal i orfod codi'r negeseuon o'r archif, gan na 
> chefais ddim y bore 'ma trwy'r e-bost ond neges Geraint - 'roeddwn i wedi 
> dechrau meddwl bod pawb yn f'anwybyddu!
> 
> Diolch i bawb am bob ateb!
> 
> Ann
> On Tue, 3 Nov 2009 09:56:37 -0000, Gorwel Roberts 
> <[log in to unmask]> wrote:
> 
> >Tydi eithrio ddim yn gywir. Exempt yw eithrio nid exclude
> >
> >
> >
> > _____
> >
> >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann 
> Corkett
> >Sent: 03 November 2009 09:54
> >To: [log in to unmask]
> >Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio
> >
> >
> >
> >Diolch, Geraint, mae hynny'n werth ei nodi. Ond ga i jyst gadarnhau'r hyn
> >mae arna i eisiau ei wybod - a ddylai'r awdur wedi defnyddio tri gair
> >gwahanol? Ai exclusion > suspension > expulsion yw'r drefn arferol ac a
> >ddylwn i ddefnyddio'r tri gair hwnnw i ddynodi'r tri cam, er i'r awdur
> >ddefnyddio "eithrio" bob tro? 'Rwy'n amau mai hyn sy'n wir, ond hoffwn gael
> >cadarnhad gan bobl sy'n ymwneud a maes addysg yn fwy cyson.
> >
> >
> >
> >Llawer o ddiolch,
> >
> >
> >
> >Ann
> >
> > _____
> >
> >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint 
> Lovgreen
> >Sent: 02 November 2009 18:08
> >To: [log in to unmask]
> >Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio
> >
> >
> >
> >exclusion = eithrio
> >
> >suspension = atal
> >
> >expulsion = gwahardd/diarddel
> >
> >
> >
> >Mae gen i ryw gof mai dyna oedd gan adran addysg Gwynedd ryw dro.
> >
> >----- Original Message -----
> >
> >From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett
> >
> >To: [log in to unmask]
> >
> >Sent: Monday, November 02, 2009 5:42 PM
> >
> >Subject: eithrio, eithrio ac eithrio
> >
> >
> >
> >'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Saesneg rheolau ysgol gynradd. Yn ol y rhain,
> >os bydd plentyn yn pechu'n ofnadwy, caiff ei eithrio dros dro gan y
> >pennaeth, wedyn bydd y llywodraethwyr yn ystyried ei eithrio, ac yno caiff
> >ei eithrio'n ffurfiol o'r ysgol. Mae ysgol gynradd arall, er iddi
> >ddefnyddio "eithrio" ar gyfer pob cam, yn son am "temporary exclusion",
> >wedyn "suspension" ac wedyn "expulsion". A oes 'na unrhyw gyfiawnhad
> >swyddogol dros ddefnyddio tri gair gwahanol, ynteu a ddylwn i lynu at
> >"exclusion"?
> >
> >
> >
> >Diolch yn fawr iawn,
> >
> >
> >
> >Ann
> >
> >
> >
> >
 		 	   		  
_________________________________________________________________
New Windows 7: Simplify what you do everyday. Find the right PC for you.
http://www.microsoft.com/uk/windows/buy/