Hyd y gwelaf i, dyw'r geiriau "suspension" ac "expulsion" ddim yn cael eu defnyddio bellach.
Dim ond "exclude/exclusion",
naill ai "fixed-period exclusion" neu "permanent exclusion", sydd i'w gweld. Byddai hynny'n esbonio pam mae'r awdur yn
defnyddio "eithrio" bob tro.
Wedi dweud hynny, alla i ddim gweld pam mae'n
sôn am dri cham, chwaith.
Mae cylchlythyr gan y Cynulliad ar http://wales.gov.uk/docrepos/40382/4038232/4038211/Circulars/exclusion-schools-prus-e.pdf?lang=en
(Saesneg) a http://wales.gov.uk/docrepos/40382/4038232/4038211/Circulars/exclusion-schools-prus-w.pdf?lang=cy
(Cymraeg) os yw o unrhyw gymorth.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 03 November 2009 11:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio[Spam score: 8%][Scanned]
Ond ni dyna fy mhroblem! 'Rwy'n cyfieithu O Gymraeg
digon gwallus, ac mae
arnaf eisiau gwybod beth yw enwau Saesneg cywir y tri
cham y mae'r awdur
gwreiddiol yn cyfeirio atynt fel "eithrio dros
dro", "eithrio" ac "eithrio ffurfiol".
Ydw i'n iawn mai "exclusion/suspension/expulsion
(sy'n swnio braidd yn hen
ffasiwn i mi)" sy'n iawn, ynteu ydy'r ddau gyntaf yn
iawn, a chynnig Tim yn
iawn ar gyfer yr olaf.
Gyda llaw, alla i ddim edrych ar gynnig Tim yr eiliad yma
rhag ofn imi golli'r
neges hon yng nghanol ei sgwennu. Er gwaethaf newid
f'aelodaeth o W-T-C i
gyfeiriad e-bost arall, 'rwy'n dal i orfod codi'r
negeseuon o'r archif, gan na
chefais ddim y bore 'ma trwy'r e-bost ond neges Geraint -
'roeddwn i wedi
dechrau meddwl bod pawb yn f'anwybyddu!
Diolch i bawb am bob ateb!
Ann
On Tue, 3 Nov 2009 09:56:37 -0000, Gorwel Roberts
<[log in to unmask]> wrote:
>Tydi eithrio ddim yn gywir. Exempt yw eithrio nid
exclude
>
>
>
> _____
>
>From: Discussion of Welsh language technical
terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Ann
Corkett
>Sent: 03 November 2009 09:54
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio
>
>
>
>Diolch, Geraint, mae hynny'n werth ei nodi. Ond ga i
jyst gadarnhau'r hyn
>mae arna i eisiau ei wybod - a ddylai'r awdur wedi
defnyddio tri gair
>gwahanol? Ai exclusion > suspension >
expulsion yw'r drefn arferol ac a
>ddylwn i ddefnyddio'r tri gair hwnnw i ddynodi'r tri
cam, er i'r awdur
>ddefnyddio "eithrio" bob tro? 'Rwy'n amau
mai hyn sy'n wir, ond hoffwn gael
>cadarnhad gan bobl sy'n ymwneud a maes addysg yn fwy
cyson.
>
>
>
>Llawer o ddiolch,
>
>
>
>Ann
>
> _____
>
>From: Discussion of Welsh language technical
terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Geraint
Lovgreen
>Sent: 02 November 2009 18:08
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio
>
>
>
>exclusion = eithrio
>
>suspension = atal
>
>expulsion = gwahardd/diarddel
>
>
>
>Mae gen i ryw gof mai dyna oedd gan adran addysg
Gwynedd ryw dro.
>
>----- Original Message -----
>
>From: Ann <mailto:[log in to unmask]>
Corkett
>
>To: [log in to unmask]
>
>Sent: Monday, November 02, 2009 5:42 PM
>
>Subject: eithrio, eithrio ac eithrio
>
>
>
>'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Saesneg rheolau ysgol
gynradd. Yn ol y rhain,
>os bydd plentyn yn pechu'n ofnadwy, caiff ei eithrio
dros dro gan y
>pennaeth, wedyn bydd y llywodraethwyr yn ystyried ei
eithrio, ac yno caiff
>ei eithrio'n ffurfiol o'r ysgol. Mae ysgol gynradd
arall, er iddi
>ddefnyddio "eithrio" ar gyfer pob cam, yn son
am "temporary exclusion",
>wedyn "suspension" ac wedyn
"expulsion". A oes 'na unrhyw gyfiawnhad
>swyddogol dros ddefnyddio tri gair gwahanol, ynteu a
ddylwn i lynu at
>"exclusion"?
>
>
>
>Diolch yn fawr iawn,
>
>
>
>Ann
>
>
>
>