Hyd y gwelaf i, dyw'r geiriau "suspension" ac "expulsion" ddim yn cael eu defnyddio bellach. Dim ond "exclude/exclusion", naill ai "fixed-period exclusion" neu "permanent exclusion", sydd i'w gweld. Byddai hynny'n esbonio pam mae'r awdur yn defnyddio "eithrio" bob tro. Wedi dweud hynny, alla i ddim gweld pam mae'n sôn am dri cham, chwaith. Mae cylchlythyr gan y Cynulliad ar http://wales.gov.uk/docrepos/40382/4038232/4038211/Circulars/exclusion-schools-prus-e.pdf?lang=en (Saesneg) a http://wales.gov.uk/docrepos/40382/4038232/4038211/Circulars/exclusion-schools-prus-w.pdf?lang=cy (Cymraeg) os yw o unrhyw gymorth. Claire -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 03 November 2009 11:57 To: [log in to unmask] Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio[Spam score: 8%][Scanned] Ond ni dyna fy mhroblem! 'Rwy'n cyfieithu O Gymraeg digon gwallus, ac mae arnaf eisiau gwybod beth yw enwau Saesneg cywir y tri cham y mae'r awdur gwreiddiol yn cyfeirio atynt fel "eithrio dros dro", "eithrio" ac "eithrio ffurfiol". Ydw i'n iawn mai "exclusion/suspension/expulsion (sy'n swnio braidd yn hen ffasiwn i mi)" sy'n iawn, ynteu ydy'r ddau gyntaf yn iawn, a chynnig Tim yn iawn ar gyfer yr olaf. Gyda llaw, alla i ddim edrych ar gynnig Tim yr eiliad yma rhag ofn imi golli'r neges hon yng nghanol ei sgwennu. Er gwaethaf newid f'aelodaeth o W-T-C i gyfeiriad e-bost arall, 'rwy'n dal i orfod codi'r negeseuon o'r archif, gan na chefais ddim y bore 'ma trwy'r e-bost ond neges Geraint - 'roeddwn i wedi dechrau meddwl bod pawb yn f'anwybyddu! Diolch i bawb am bob ateb! Ann On Tue, 3 Nov 2009 09:56:37 -0000, Gorwel Roberts <[log in to unmask]> wrote: >Tydi eithrio ddim yn gywir. Exempt yw eithrio nid exclude > > > > _____ > >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett >Sent: 03 November 2009 09:54 >To: [log in to unmask] >Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio > > > >Diolch, Geraint, mae hynny'n werth ei nodi. Ond ga i jyst gadarnhau'r hyn >mae arna i eisiau ei wybod - a ddylai'r awdur wedi defnyddio tri gair >gwahanol? Ai exclusion > suspension > expulsion yw'r drefn arferol ac a >ddylwn i ddefnyddio'r tri gair hwnnw i ddynodi'r tri cam, er i'r awdur >ddefnyddio "eithrio" bob tro? 'Rwy'n amau mai hyn sy'n wir, ond hoffwn gael >cadarnhad gan bobl sy'n ymwneud a maes addysg yn fwy cyson. > > > >Llawer o ddiolch, > > > >Ann > > _____ > >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen >Sent: 02 November 2009 18:08 >To: [log in to unmask] >Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio > > > >exclusion = eithrio > >suspension = atal > >expulsion = gwahardd/diarddel > > > >Mae gen i ryw gof mai dyna oedd gan adran addysg Gwynedd ryw dro. > >----- Original Message ----- > >From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett > >To: [log in to unmask] > >Sent: Monday, November 02, 2009 5:42 PM > >Subject: eithrio, eithrio ac eithrio > > > >'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Saesneg rheolau ysgol gynradd. Yn ol y rhain, >os bydd plentyn yn pechu'n ofnadwy, caiff ei eithrio dros dro gan y >pennaeth, wedyn bydd y llywodraethwyr yn ystyried ei eithrio, ac yno caiff >ei eithrio'n ffurfiol o'r ysgol. Mae ysgol gynradd arall, er iddi >ddefnyddio "eithrio" ar gyfer pob cam, yn son am "temporary exclusion", >wedyn "suspension" ac wedyn "expulsion". A oes 'na unrhyw gyfiawnhad >swyddogol dros ddefnyddio tri gair gwahanol, ynteu a ddylwn i lynu at >"exclusion"? > > > >Diolch yn fawr iawn, > > > >Ann > > > >