Rhyw ychydig o wybodaeth digon di-bwrpas ond diddorol ( i mi, beth bynnag) i ddilyn!
 
Mae Pill, fel y dywedwyd, yn golygu ffos neu gornant sy'n llifo naill ai i'r mor, neu i aber afon - llanwol, beth bynnag - mae i'w ddarganfod fynychaf yn ardal aber Afon Hafren, ac mae nifer o "Pill"iau yno. Ar ochr orllewinol afon Wysg yng Nghasnewydd mae ward etholiadol Pilgwenlli neu Pillgwenlly, ac mae'n ardal ymhlith y mwyaf difreintiedig yng Nghymru. O'r gweddill, roedd Cogan Pill ar lan yr Elai ym Mhenarth ( safle dociau Penarth), ac mae Pill hefyd ar yr afon Avon ym Mryste, Bullo Pill ger Newnham, a Corne Pill ger Lydney, a nifer o rai eraill yng Ngwlad yr Haf. 
 
Eu prif nodwedd yw bod y cornentydd neu ffosydd yn fydlyd tu hwnt, ac yn darparu anghorfeydd da. Mae ambell un yn maentumio mai 'Pwll' oedd y gwreiddiol - mae Hywel Wyn Owen yn awgrymu mai yr Hen Saesneg pyll ( pwll llanwol) sydd yma'n wreiddiol, yna wedi ei fabwysiadu i'r Gymraeg fel y Pil ac mae'n ystyried y gall fod Y Pîl, ger Cynffig o'r un tarddiad. 
 
Alwyn