Gwaith geiriaduron ydi croniclo iaith fel y mae,
nid trio ei ffosileiddio.
Am ryw reswm dydi Geiriaduron y Brifysgol na'r
Academi ddim yn cydnabod y gair "efaill" (na "gefaill" hyd yn oed) am
"twin", dim ond "gefell".
Ond "efaill/efeilliaid" ydi'r ffurf gyffredin yr
ydw i wedi'i chlywed erioed.
Rhag ofn mai fi oedd yn od, Gwglais a chael y
canlyniadau canlynol:
"yr efaill" - 311 enghraifft
"y gefaill" - 5
"y gefell" - 23 (sef ffurf y
geiriaduron)
"yr efeilliaid" - 1,040
"y gefeilliaid" - 61 (ffurf y
geiriaduron)
Dowch o'na, eiriaduron, tynnwch eich bys
allan.
Geraint
Mond rhywbeth i feddwl amdano ar ddydd
Gwener!