Gwaith geiriaduron ydi croniclo iaith fel y mae, nid trio ei ffosileiddio. Am ryw reswm dydi Geiriaduron y Brifysgol na'r Academi ddim yn cydnabod y gair "efaill" (na "gefaill" hyd yn oed) am "twin", dim ond "gefell". Ond "efaill/efeilliaid" ydi'r ffurf gyffredin yr ydw i wedi'i chlywed erioed. Rhag ofn mai fi oedd yn od, Gwglais a chael y canlyniadau canlynol: "yr efaill" - 311 enghraifft "y gefaill" - 5 "y gefell" - 23 (sef ffurf y geiriaduron) "yr efeilliaid" - 1,040 "y gefeilliaid" - 61 (ffurf y geiriaduron) Dowch o'na, eiriaduron, tynnwch eich bys allan. Geraint Mond rhywbeth i feddwl amdano ar ddydd Gwener!