Mae ‘eithrio’ yn rhemp yng Ngheredigion hefyd

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 03 November 2009 10:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio

 

Ie, ti'n iawn Gorwel.

 

Ond mae'r ysgolion dan sylw'n defnyddio'r termau anghywir, mae'n debyg!

 

gwahardd > atal > diarddel = exclusion > suspension > expulsion

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Gorwel Roberts

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, November 03, 2009 9:05 AM

Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio

 

Na, na, exempt yw eithrio, siawns. Camgyfieithiad o ‘exclusion’ yw ‘eithrio’ yn y cyswllt hwn. Fel hyn oedd hi:

 

Exclusion = Gwahardd

Suspend = Atal

Expulsion = Diarddel

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 02 November 2009 18:08
To: [log in to unmask]
Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio

 

exclusion = eithrio

suspension = atal

expulsion = gwahardd/diarddel

 

Mae gen i ryw gof mai dyna oedd gan adran addysg Gwynedd ryw dro.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Monday, November 02, 2009 5:42 PM

Subject: eithrio, eithrio ac eithrio

 

‘Rwyf wrthi’n cyfieithu i’r Saesneg rheolau ysgol gynradd.  Yn ol y rhain, os bydd plentyn yn pechu’n ofnadwy, caiff ei eithrio dros dro gan y pennaeth, wedyn bydd y llywodraethwyr yn ystyried ei eithrio, ac yno caiff ei eithrio’n ffurfiol o’r ysgol.  Mae ysgol gynradd arall, er iddi ddefnyddio “eithrio” ar gyfer pob cam, yn son am “temporary exclusion”, wedyn “suspension” ac wedyn “expulsion”.  A oes ‘na unrhyw gyfiawnhad swyddogol dros ddefnyddio tri gair gwahanol, ynteu a ddylwn i lynu at “exclusion”?

 

Diolch yn fawr iawn,

 

Ann