Oes Claire - mae'n boen! Ti'n hollol iawn
- maen nhw'n ei ddefnyddio yn lle 'adran/uned' ac ati. Oes rhaid i ti roi
unrhyw beth o gwbl yn fama? Elli di ddweud Bydd Tîm... yn.... >? Hynny yw ,
dwi'n cymryd mai nhw fydd yn gwneud y pethau hyn ia?
Carolyn
Oddi wrth/From:
Anfonwyd/Sent: 17 Tachwedd 2009
14:28
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: function
Dwi ddim yn meddwl ’mod i’n dychmygu hyn –
dwi’n cael yr argraff bod pobl wedi dechrau defnyddio’r gair
‘function’ i olygu’r
adran/isadran/uned/tîm ac ati sy’n cyflawni swyddogaeth, yn
ogystal â’r swyddogaeth ei hun. Er enghraifft:
“The
North Wales Central SET function will provide an Email Alert to the SET
Outreach Teams when necessary, but at least every two weeks.”
“The North Wales Central SET function will, on a
monthly basis, produce an update of the Project Matrix…”
Oes rhywun arall wedi sylwi ar hyn? Os nad ydw
i’n gwybod beth yw union enw’r ‘function’ (adran, isadran,
uned, tîm neu rywbeth arall), beth ddylwn i ei roi?
Unrhyw gynigion?
Diolch
Claire
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru
yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa
gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
Pennawd Cyf is a limited company registered in