Print

Print


Oes Claire - mae'n boen! Ti'n hollol iawn - maen nhw'n ei ddefnyddio yn lle 'adran/uned' ac ati. Oes rhaid i ti roi unrhyw beth o gwbl yn fama? Elli di ddweud Bydd Tîm... yn.... >?  Hynny yw , dwi'n cymryd mai nhw fydd yn gwneud y pethau hyn ia?

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire Richards
Anfonwyd/Sent: 17 Tachwedd 2009 14:28
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: function

 

Dwi ddim yn meddwl ’mod i’n dychmygu hyn – dwi’n cael yr argraff bod pobl wedi dechrau defnyddio’r gair ‘function’ i olygu’r adran/isadran/uned/tîm ac ati sy’n cyflawni swyddogaeth, yn ogystal â’r swyddogaeth ei hun.  Er enghraifft:

 

The North Wales Central SET function will provide an Email Alert to the SET Outreach Teams when necessary, but at least every two weeks.”

The North Wales Central SET function will, on a monthly basis, produce an update of the Project Matrix…”

 

Oes rhywun arall wedi sylwi ar hyn?  Os nad ydw i’n gwybod beth yw union enw’r ‘function’ (adran, isadran, uned, tîm neu rywbeth arall), beth ddylwn i ei roi?  Unrhyw gynigion?

 

Diolch

 

Claire

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.